Wikiquote:Llawlyfr arddull

Oddi ar Wikiquote

Nod syml y Llawlyfr Arddull hwn yw er mwyn sicrhau fod yr erthyglau i gyd yn edrych yr un peth — canllaw arddull ydyw. Nid yw'r rheolau canlynol yn honni i fod y gair olaf. Yn aml mae'r naill ffordd llawn cystal a'r llall, ond os yw pawb yn creu erthyglau'n yr un modd, bydd Wiciquote yn haws i'w ddarllen a'i ddefnyddio, heb son am fod yn haws i'w ysgrifennu a'i olygu.

Mae'n ddymunol, er nad yw'n angenrheidiol, i fod yn gywir wrth ychwanegu dyfyniadau, diarhebion ac areithiau, ac i lynu at y Templad, fel y fformatio safonol o dudalennau yn ei wneud yn bosib i ddefnyddio'n gwybodaeth ar gyfer ystod eang o ddefnyddiau, megis cyfri dyfyniadau (gwiriedig vs. priodolwyd), cenhedlaeth o dudalennau thema, a.y.b. Pan yn golygu tudalen sy'n bodoli eisoes, fe'ch annogir i newid y fformatio fel ei fod yn cydymffurfio a'r Templad.

Edrychwch ar Sut i olygu tudalen am wybodaeth ar sut i ddefnyddio gwahanol fathau o farciau'r wici, sy'n llawer mwy na dim ond testun bras neu italig. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar pryd i'w defnyddio, er fod yr enghreifftiau'n dangos marciau'r wici hefyd gan amlaf.

Cymrwch gipolwg ar Wikiquote:Canllaw ar gyfer diwyg am rai awgrymiadau syml ar sut i osod erthygl ar dudalen.

Cyflwyniadau[golygu]

Dylai dechrau erthyglau gyda paragraff agoriadol bychan. Gellir gwneud hyn gydag adrannau hefyd. Dylai cyflwyniadau i erthyglaugynnig disgrifiad bras o bwnc yr erthygl; cysylltu ag erthygl Wicipedia am unrhyw fanylion pellach. Dylid ysgrifennu cyflwyniadau mewn brawddegau llawn.

Dylai cyflwyniadau i erthyglau gyfeirio at deitl yr erthygl ac unrhyw enwau gwahanol os oes enwau amgen gan yr un pwnc. Ar gyfer erthyglau am berson neu thema, dylai'r cyfeiriad cyntaf fod mewn testun bras; ar gyfer pynciau fel teitlau llyfrau sy'n ymddangos mewn testun italig gan amlaf, dylai'r cyfeiriad cyntaf fod mewn testun bras italig.

  • Digrifwr a nofelydd Americanaidd oedd Samuel Langhorne Clemens, a adwenir hefyd fel Mark Twain (1835–1910). …
    • Digrifwr a nofelydd [[w:Unol Daleithiau|Americanaidd]] oedd '''Samuel Langhorne Clemens''', a adwaenir hefyd fel '''[[w:Mark Twain|Mark Twain]]''' (1835–1910). …

Dylai erthyglau am bobl gynnwys blynyddoedd geni a marw'r awdur o leiaf, os ydynt yn hysbys. Dylid gwahanu dyddiadau geni a marwolaeth gyda en dash, "–". Mae hyn a nifer o symbolau eraill a allai fod yn ddefnyddiol wrth drawsgrifo enwau a thestun gwreiddiol ar gael mewn blwch ar waelod y tudalennau golygu a rhagolwg. (Yr en dash yw'r symbol cyntaf a ddangosir.) Os yw'r awdur dal yn fyw, ysgrifennwch "(ganed dyddiad geni)" neu "(g. dyddiad geni)", nid "(yyyy–)".

Mae cyflwyniadau i erthyglau yn fwyaf pwysig ar gyfer dyfyniadau gan bobl neu weithiau nas adnabyddir yn fyd-eang. Bydd cyflwyniad effeithiol yn cynorthwyo Wiciddyfynnwyr eraill i ddarganfod mwy am y pwnc a chwilio am ddyfyniadau ychwanegol a allai fod yn berthnasol i'r erthygl. (Yn yr un modd, gall cyflwyniad gwael arwain at erthygl yn cael ei chynnig i'w dileu, os nad oes unrhyw olygydd arall yn medru dod o hyd i ddigon o wybodaeth am bwnc yr erthygl.)

Dylid defnyddio cyflwyniadau adrannol er mwyn darparu gwybodaeth bellach am gyd-destun is-set penodol o ddyfyniadau a geir yn yr erthygl. Mewn achos gyffredin o adran mewn erthygl am waith penodol neu berson, gall y cyflwyniad gynnwys manylion llyfryddiaeth am y gwaith, fel nad oes angen eu hail-adrodd ar gyfer pob dyfyniad.