Saunders Lewis
Gwedd
Dramodydd, bardd, nofelydd, ysgolhaig, beirniad llenyddol a gwleidydd oedd John Saunders Lewis (15 Hydref 1893 – 1 Medi 1985). Roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru. Bu ei ddarlith radio enwog Tynged yr Iaith, a draddodwyd yn 1962, yn sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ond fel dramodydd y cydnabyddir ef fwyaf.
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
[golygu]Araith "Tynged yr Iaith" (1962)
[golygu]- Yn ail, o ganlyniad ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol. Bodlonwyd drwy Gymru gyfan i'w darostyngiad llwyr."
- Os adwaith yn erbyn y Llyfrau Gleision a roes gychwyn i genedlaetholdeb Cymreig yn ail hanner y ganrif, rhaid cyfaddef hefyd mai'r Llyfrau Gleision a orfu. Er cymaint y digofaint a'r cynddaredd a gyffroisant, er cymaint y protestio pybyr oblegid eu darlun du o Anghydffurfiaeth Cymru, yn rhyfedd iawn fe fabwysiadodd Cymru gyfan, Angyhydffurfiaeth Cymru'n arbennig, holl bolisi a phrif argymhellion yr adroddiad enbyd. Rhoes arweinwyr y genedl, yn lleygwyr ac yn weinidogion, eu hegni gorau glas i sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg drwyadl ym mhob rhan o Gymru o'r ysgol elfennol hyd at golegau normal a thri choleg prifathrofaol, a Siarter Prifysgol i goroni'r cwbl. Casglwyd arian y gweithiwr o Gymro at y colegau prifysgol. 'Rhoes ei geiniog brin at godi'r coleg' er mwyn i'w fab ei hunan beidio â medru nac iaith ei dad nac ystorïau'i dadau na gwybod dim am 'adlais cerddi ei ieuenctid pell'. Mynych y dywedwyd mai'r gwahaniaeth rhwng colegau Prifysgol Cymru a phrifysgolion dinasoedd masnachol a diwydiannol Lloegr yw mai meistri masnach a diwydiant a greodd y sefydliadau Seisnig ond ceiniogau'r werin a gododd golegau Cymru. Diau fod gwir yn hynny; nid yw ond yn chwerwi'r trasiedi. Canys trasiedi eironig a chwerw yw Prifysgol Cymru, ffrwyth pennaf deffroad cenedlaethol y werin Gymreig a Chymraeg."
- Trown at weddau politicaidd y deffroad Cymreig yn y ganrif ddiwethaf ac fe welwn yn union yr un diystyru ar y Gymraeg. Er bod yr iaith yn destun gwawd ac ymosod barnwyr ac esgobion a gweision sifil, ni chododd neb i fynnu ei hawliau iddi yn y Senedd nac ar lwyfan. Bu gwrthgymreigrwydd esgobion a phersoniaid yr Eglwys Wladol a'u gelyniaeth i'r Gymraeg yn rhan fawr o'r ddadl o blaid Datgysylltiad, yn rhan hefyd o ddadl y Degwm.
- Trown felly at y sefyllfa bresennol, argyfwng yr iaith yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Mae hi'n sefyllfa wan. Bu amser, yng nghyfnod deffroad y werin rhwng 1860 a 1890, y buasai'n ymarferol sefydlu'r Gymraeg yn iaith addysg a'r Brifysgol, yn iaith y cynghorau sir newydd, yn iaith diwydiant. Ni ddaeth y cyfryw beth i feddwl y Cymry. Mi gredais i nad oedd y peth yn amhosibl, gydag amser ac o ddilyn polisi cyson am genhedlaeth neu ddwy, rhwng y ddau rhyfel byd. Heddiw nid yw hynny'n bosibl. Bu cyfnewidiadau cymdeithasol aruthrol yng Nghymru yn y chwarter canrif diwethaf. Iaith ar encil yw'r Gymraeg yng Nghymru mwaych, iaith lleiafrif a lleiafrif sydd eto'n lleihau.
- Gellir tynnu un wers o bwys oddi wrth agwedd y Llywodraeth. Pe hawliai Cymru o ddifri gael y Gymraeg yn iaith swyddogol gydradd â'r Saesneg nid o du'r Llywodraeth nac oddi wrth y Gwasanaeth Sifil y deuai'r gwrthwynebiad. Yn naturiol fe fyddai peth rhegi ysgafn gan glercod yn chwilio am eiriadur a chan ferched teipio yn dysgu sbelio, ond y mae'r gwasanaeth sifil wedi hen ddysgu derbyn chwyldroadau yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o'r drefn feunyddiol. O Gymru, oddi wrth yr awdurdodau lleol ac oddi wrth eu swyddogion, y deuai'r gwrthwynebiad, yn gras, yn ddialgar, yn chwyrn.
- Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'.
- Mae'r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth. Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.
Gweithiau llenyddol
[golygu]Siwan
[golygu]- Gweler Siwan (drama)
- Rhodd enbyd yw bywyd i bawb. - Llywelyn
Ffynhonnellau eraill
[golygu]- Roedd gennyf awydd, nid awydd bychan, awydd mawr i newid hanes Cymru. I newid cwrs Cymru'n llwyr, a gwneud Cymru Cymreig yn rhywbeth byw, cryf, grymus, yn perthyn i'r byd cyfoes. A methais yn llwyr... cefais fy ngwrthod gan bawb.
- "I Failed Utterly": Saunders Lewis and the Cultural Politics of Welsh Modernism, gan Darryl Jones. Gwasg Prifysgol Cork. 1996
- Fe ddaw Ewrop i’w lle eto pan gydnabyddo’r gwledydd eu bod oll yn ddeiliaid ac yn ddibynnol. Mynnwn felly, nid annibyniaeth, eithr rhyddid. Ac ystyr rhyddid yn y mater hwn yw cyfrifoldeb. Yr ydym ni sy’n Gymry, yn hawlio ein bod yn gyfrifol am wareiddiad a dulliau bywyd cymdeithasol yn ein rhan ni o Ewrop. Dyna uchelfryd politicaidd y Blaid Genedlaethol.
- Egwyddorion Cenedlaetholdeb, 1926
Dyfyniadau amdano
[golygu]- Roedd wedi rhagweld marwolaeth ei ddiwylliant ei hun, ac yn unigryw yn hanes gwareiddiad, ei achub drwy ei rhagwelediad. Diolch iddo ef, yr Iaith Gymraeg yw un o’r ieithoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.
- Anhysbys 100 Arwyr Cymru
- Tynnodd linell yn y tywod gan orfodi pobl i feddwl o ddifrif ynglyn â’r Iaith Gymraeg.
- Anhysbys 100 Arwyr Cymru