Woody Allen

Oddi ar Wikiquote
Woody Allen (2006)

Actor, llenor, cerddor jazz, digrifwr, dramodydd, a chyfarwyddwr ffilm Americanaidd yw Woody Allen (ganed Allen Stewart Konigsberg; 1 Rhagfyr 1935). Mae ei ffilmiau sy'n cymysgu dychan, ffraethineb a hiwmor, wedi ennill parch a'i wneud yn un o'r gwneuthurwyr ffilm mwyaf toreithiog yr oes gyfoes.

Dyfyniadau[golygu]

  • "Priodas? Mae hynny am fywyd! Mae fel sment!"
    • What's New, Pussycat? (1965)
  • "Dw i'n credu fod trosedd yn talu. Mae'r oriau'n dda, rydych yn cyfarfod a nifer o bobl diddorol, ac rydych yn teithio tipyn."
    • Take the Money and Run (1969)
  • "Os nad ydych yn methu’n awr ac yn y man mae’n dangos eich bod yn chwarae’n saff."[1]
  • "I chi, rwyn anffyddiwr; i Dduw, dw i'n Wrthwynebwr Ffyddlon."
    • Stardust Memories (1980)
  • "Mae rhyw yn gwaredu tensiwn. Mae cariad yn ei achosi."
    • A Midsummer Night's Sex Comedy (1982)
  • "Am fyd! Gallai fod mor hyfryd oni bai am rai pobl."
    • Radio Days (1987)
  • "Ni allaf wrando llawer ar Wagner. Caf yr awydd i drechu Gwlad Pwyl."
    • Manhattan Murder Mystery (1993)
  • "Roeddwn yn blentyn nerfus ac arferwn wlychu'r gwely. Arferwn gysgu gyda blanced drydan a buaswn yn trydanu fy hun yn barhaus."
  • "Cofiaf pan oedd blentyn, roeddwn wedi dwyn cylchgrawn pornograffig a oedd wedi ei argraffu mewn Braille. Arferwn rwbio'r rhannau brwnt."

Getting Even (1971)[golygu]

  • "Ni chredaf mewn bywyd ar ol marwolaeth, er dw i yn mynd a dillad isaf glan."
    • "Conversations with Helmholtz"

Everything You Always Wanted to Know About Sex* (*But Were Afraid to Ask) (1972)[golygu]

  • Ydy rhyw yn frwnt? Dim ond os ydy'n cael ei wneud yn iawn.
  • Arferent fy ngalw i'n wallgof... Ond myfi - ie, myfi - a ddarganfyddodd y cysylltiad rhwng hunan-leddfu eithafol a gyrfa mewn gwleidyddiaeth!"

Sleeper (1973)[golygu]

  • "Fy ymennydd: fy ail hoff organ."
  • "Dw i ddim wir yn berson arwrol. Cefais fy ymosod arno gan y Crynwyr."

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dyfyniadau sy'n Ysbrydoli Gwefan Cyngor Caerffili. Adalwyd ar 15-05-2011