Neidio i'r cynnwys

Wikiquote:Tudalen sgwrs

Oddi ar Wikiquote

Math arbennig o dudalennau ydy'r Tudalennau Sgwrs, a ddefnyddir i drafod newidiadau ar y "prif" erthygl neu dudalen gyfatebol. Mae gan holl erthyglau Wikiquote, dudalennau defnyddiwr personol, tudalennau polisi, nodau, ac ati. dudalen sgwrs wedi eu cysylltu iddynt (wedi eu cysylltu i'r Wikiquote Cymraeg fel "Sgwrs" ar y ddewislen ar ben y dudalen).

  • Defnyddir tudalennau sgwrs erthygl i drafod newidiadau i erthygl benodol.
  • Denfyddir tudalennau sgwrs defnyddiwr er mwyn gadael negeuon i ddefnyddwyr penodol. Bydd blwch "Mae gennych negeseuon newydd" yn cael ei arddangos i ddefnyddiwr yn awtomatig ar frig unrhyw dudalen Wikiquote, nes eu bod yn edrych ar eu tudalen sgwrs.
  • Defnyddir tudalennau sgwrs Wikiquote er mwyn trafod cynigion a datblygiadau Polisïau a chanllawiau sy'n bodoli eisoes.

Rheolau cyffredinol ar gyfer pob tudalen sgwrs

[golygu]

Defnydd

[golygu]

Ar Wiciquote, pwrpas tudalen sgwrs yw i geisio gwella cynnwys y prif dudalen, a hynny o safbwynt diduedd. Mae cwestiynau, heriau, trychu testun (oherwydd cymhlethdod neu duedd, er enghraifft), dadleuon ynglyn a newid y testun, a sylwebaeth am y prif dudalen yn dderbyniol.

Yn gyffredinol, mae Wikiquote:Wicipedwyr yn gwrthwynebu pan fo defnyddwyr yn defnyddio tudalennau sgwrs dim ond er mwyn sgyrsio'n unochrog am y prif bwnc. Mewn geiriau eraill, siaradwch am yr erthygl, ac nid am y pwnc. Yr arferion rydym yn annog yw'r unig beth sy'n atal Wiciquote rhag troi'n h2g2 neu Nodyn:W arall. Gweler hefyd: Cwrteisi

Mae'n gwbl naturiol fod anghydweld o ran safbwyntiau'n ymddangos ar dudalennau sgwrs. Eu pwrpas yw i ddatrys anghydfodau arnynt yn hytrach nag yn yr erthygl ei hun.

Tudalennau sgwrs defnyddwyr

[golygu]

Mae gan bob defnyddiwr dudalen sgwrs cyfatebol hefyd. Cewch eich hysbysu o ychwanegiadau i'ch tudalen sgwrs eich hun gyda baner "Mae negeseuon newydd gennych" ar frig unrhyw dudalen Wiciquote.

Er mwyn gadael neges ar gyfer defnyddiwr arall ar eu tudalen sgwrs, cliciwch ar y ddolen sgwrs ar frig y dudalen pan fyddwch yn edrych ar eu tudalen sgwrs. Ar y rhestr o newidiadau diweddar ac ar eich rhestr gwylio, gallwch gael mynediad i dudalen sgwrs defnyddiwr drwy ddilyn y ddolen (Sgwrs) tu ôl enw'r defnyddiwr neu eu cyfeiriad IP. Mae gan nifer o ddefnyddwyr ddolen i'w tudalen sgwrs fel rhan o'u llofnod hefyd.

Moesgarwch

[golygu]

Gaf i wneud beth bynnag rwyf eisiau ar fy nhudalen defnyddiwr fy hun?

[golygu]

Defnyddia'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr eu tudalen sgwrs fel tudalennau sgwrs cyffredin, gan archifo'r cynnwys yn achlysurol i is-dudalen personol. Mae pobl eraill yn dileu sylwadau ar ôl iddynt ymateb iddynt.

Bydd dileu negeseuon personol heb ymateb iddynt (os oedd ymateb yn briodol neu'n gwrtais) yn cael ei ystyried yn elyniaethus. Yn y gorffennol, ystyriwyd y math hwn o ymddygiad yn anghwrtais. Gellri ystyried ailgyfeirio eich tudalen sgwrs defnyddiwr i dudalen arall (boed fel jôc neu er mwyn bod yn anghwrtais neu fel rhyw fath o neges i ddweud wrth eraill i "fynd i ffwrdd"), ac eithrio pan yn ailgyfeirio o un o'ch cyfrifon i gyfrif arall sy'n eiddo i chi, hefyd yn weithred elyniaethus. Fodd bynnag, nid yw'n dderbyniol i wrthdroi dileadau neu ailgyfeiriadau o'r math hyn a gall wneud hynny arwain at gael eich blocio am ryfela golygyddol. Os yw rhywun yn dileu eich sylwadau heb ymateb iddynt, ystyriwch symud ymlaen. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer rhybuddion am fandaliaeth - ystyrir eu symud o'ch tudalen sgwrs yn fandaliaeth hefyd.

Os ydych yn teimlo fod eich tudalen sgwrs defnyddiwr yn mynd yn rhy fawr a'i fod yn cymryd gormod o amser i lwytho, gallwch ei archifo. Yna gallwch symud y cynnwys o'ch tudalen sgwrs, ond sicrhewch fod y sylwadau hynny ar gael yn hawdd ar dudalen wahanol. Cewch addurni'r dudalen fel yr ydych yn dymuno, ond cofiwch fod gan eich tudalen sgwrs defnyddiwr y swyddogaeth bwysig o alluogi golygwyr eraill i gysylltu â chi. Bydd pobl yn digio os nad ydynt yn medru ei ddefnyddio i'r perwyl hynny.

Sut i gadw sgwrs dwy-ffordd yn ddarllenadwy

[golygu]

Os ydych yn ysgrifennu negeseuon yn ôl ac ymlaen rhwng tudalennau sgwrs defnyddwyr, gall y testun fod yn anodd i'w ddilyn. Dyma ddwy system er mwyn gwneud synnwyr o sylwadau a fyddai fel arall yn anesboniadwy:

  • Copïwch y testun yr ydych yn ymateb iddo o'ch tudalen sgwrs defnyddiwr i dudalen sgwrs defnyddiwr y person arall. Rhowch eich ateb oddi tano iddo, ond mewnosodwch yr adran ateb er mwyn ei wneud yn amlwg. (Fel gyda thudalen sgwrs cyffredin.)
  • Neu: Rhowch sylwad ar eich tudalen sgwrs defnyddiwr eich hun y byddwch yn ymateb yno oni bai eu bont yn gofyn i chi wneud y gwrthwyneb. Gwnewch hyn ar gyfer sgyrsiau mae pobl eraill yn dechrau.
  • Rhowch dudalen sgwrs y person arall ar eich rhestr wylio a dywedwch wrthyny y gallant ateb yno. Gwnewch hyn ar gyfer sgyrsiau yr ydych chi'n dechrau.