Wikiquote:Sillafiadau
Gwedd
Am mai dyfyniadur Cymraeg yw hwn, rhaid i'r dyfyniadau fod trwy gyfrwng y Gymraeg. Er hyn, ceir enghreifftiau pan fo defnyddwyr yn defnyddio Cymraeg amrywiol yn dibynnu ar o ba ran o Gymru maent yn dod. Am fod tafodieithoedd gwahanol gan ddefnyddwyr Cymreig, dylid defnyddio iaith safonol gan amlaf ond derbynnir gwahaniaethau tafodieithol. Er enghraifft, nid ddylid newid rwan i nawr neu'r gwrthwyneb.
Dilynwch y canllawiau canlynol:
- Ar gyfer dyfyniadau o ffynonellau ysgrifenedig Cymraeg, nodwch y ffynhonnell a chopïwch y dyfyniad fel y cafodd ei ysgrifennu.
- Ar gyfer dyfyniadau mewn iaith wahanol, cyfieithwch y dyfyniad gan ddefnyddio cystrawennau Cymreig priodol.
- Ar gyfer dyfyniadau a wnaed ar lafar, defnyddiwch y sillafiad y byddai'r person hwnnw wedi defnyddio, gorau fedrwch chi. (Defnyddiwch yr acen i'ch cynorthwyo.)
- Byddwch yn gyson o ran sylwadau, nodiadau a chyfeithiadau trwy gydol y dudalen.