Wikiquote:Dyfyniad y dydd/Mawrth 1, 2010

Oddi ar Wikiquote
  Dros Gymru'n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri,
y winllan wen a roed i'n gofal ni;
d'amddiffyn cryf a'i cadwo'n ffyddlon byth,
a boed i'r gwir a'r glân gael ynddi nyth;
er mwyn dy Fab a'i prynodd iddo'i hun,
O crea hi yn Gymru ar dy lun.

O deued dydd pan fo awelon Duw
yn chwythu eto dros ein herwau gwyw,
a'r crindir cras dan ras cawodydd nef
yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo ef,
a'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
yn seinio fry haeddiannau'r addfwyn Oen.

~ Lewis Valentine ~