Wikiquote:Croeso, newydd-ddyfodiaid

Oddi ar Wikiquote

Casgliad rhad ac am ddim o ddyfyniadau a ysgrifennwyd gan bobl fel chi ydy Wikiquote. Cynhelir y safle gan y Wikimedia Foundation sydd wedi ei leoli yn yr Unol Daleithiau. Er mwyn creu cyfrif defnyddiwr, ewch i Special:Userlogin.

Gallwch wneud tri pheth gwahanol ar Wikiquote. Gallwch ei ddarllen, ei olygu neu ei ysgrifennu.

Mae yna rai pethau na sydd yn perthyn i Wikiquote, ond heblaw am y rheiny caiff pob cyfraniad ei groesawu.

Darllen[golygu]

Fel arfer, mae darllen yn hawdd. Ewch i'r Brif Dudalen, dewch o hyd i erthygl sy'n edrch yn ddiddorol a dechreuwch chwilota. Mae yna flwch chwilio ar ochr chwith bob tudalen hefyd.

Os ddarllenwch chi rhywbeth, a'ch bod yn ei hoffi, pam na adewch chi neges ar adran sgwrs y dudalen? I ddechrau, dewiswch y ddolen "Trafodwch y dudalen hon" er mwyn mynd i'r dudalen sgwrs, yna dewiswch Golygu ar y dudalen sgwrs. Rydym wrth ein bodd yn derbyn ychydig o adborth cadarnhaol!

Os oes yna ddyfyniad penodol rydych yn chwilio amdano, neu bwnc nad ydym wedi ymdrin ag ef, gofynnwch wrth y Ddesg Gyfeirio, neu ychwanegwch y pwnc i'n rhestr o erthyglau a geisir.

Os oes gennych gwestiwn ynglyna sut y mae Wikiquote yn gweithio, cymrwch olwg ar ein hadran Cwestiynau cyffredin. Os na fydd hynny'n ateb eich cwestiwn, gallwch ofyn yn y caffi.

Golygu[golygu]

Gall unrhywun olygu tudalennau yn Wikiquote, gan gynnwys y dudalen hon - ym syml, dewiswch y ddolen Golygu ar ben neu waelod y dudalen hon os ydych yn credu fod angen ei gwella. Nid oes angen unrhyw bwerau arbennig arnoch, nid oes angen i chi fewngofnodi hyd yn oed. Gallwch arbrofi eich sgiliau golygu yn ein Pwll tywod: [1].

Ffordd hawdd o helpu yw defnyddio Wikiquote yn yr un modd ag y byddech yn defnyddio unrhyw eiriadur dyfyniadau eraill, ond pan welwch gamgymeriad - gwall sillafu, efallai, neu frawddeg aneglur, ewch i mewn i'r erthygl a chywirwch ef. Byddwch yn ddewr pan yn diweddaru tudalennau - os ydych yn gweld ffordd o wella'r dudalen, gwnewch e!

Efallai eich bod yn meddwl fod hyn yn frawychus! Gweler Ymatebion i wrthwynebiadau cyffredin am esboniad ynglyn a pham y mae'r system dal i weithio.

Ysgrifennu[golygu]

Mae golygu'r wybodaeth sydd gennym eisoes yn wych, ond hoffem pe baech yn cyfrannu'ch gwybodaeth eich hun hefyd. Gallwch ddechrau tudalen newydd, neu ychwanegu adran cwbl newydd i dudalen sy'n bodoli'n barod. Peidiwch poeni'n ormodol ynglyn a gwneud camgymeriadau - os wnewch chi rhywbeth sydd ychydig yn anghywir, yna gallwch chi, neu unrhywun arall, ei gywiro'n hwyrach.

Sylwer: Os nad ydych eisiau i'ch ysgrifen gael ei olygu'n ddidrugaredd a'i ail-ddosbarthu, yna peidiwch a'i gyflwyno. Ystyrir fod holl gyfraniadau i Wikiquote yn cael eu rhyddhau o dan Creative Commons Attribution/Share-Alike License‎ (CC-BY-SA) a'r GNU Free Documentation License (GFDL). Mae hyn yn sicrhau y gellir dosbarthu Wikiquote yn rhad ac am ddim am byth. Peidiwch a chyfrannu gwaith sydd a hawlfraint arno oni bai fod gennych ganiatad gan yr awdur i'w drwyddedu o dan y CC-BY-SA. Gweler Wicipedia:Hawlfreintiau am fwy o wybodaeth.

Mae gennym rai polisiau a chanllawiau efallai yr hoffech edrych arnynt. Fe'ch hannogir i ddilyn y nodyn. Hefyd, ffocysa'r prosiect ar greu gwyddoniadur o ddyfyniadau, ac felly mae yna nifer o bethau anaddas ar gyfer Wiciquote.

Mwynhewch!

Gweler hefyd[golygu]

Dyma rai dolenni i fwy o wybodaeth cychwynnol:

Gwybodaeth gyffredinol, canllawiau, a chymorth[golygu]

Ar gyfer cyfrannwyr i wefannau tebyg[golygu]

Cyngor a chanllawiau ynglyn a sut i ddechrau[golygu]

Y Gymuned Wikiquote[golygu]

  • Wiciddyfynnwyr - rhestr wahanol o gyfrannwyr rheolaidd, gallwch ychwanegu eich hun os ydych yn dymuno.
  • Etiquette - cwrteisi ar Wikiquote. (gweler hefyd: Etiquette)