Cymorth:Dechrau tudalen newydd
Enwi erthygl
[golygu]Pan yn dewis teitl ar gyfer erthygl Wiciquote, dylid ystyried dwy agwedd: testun y teitl ei hun, a sut y dylid defnyddio prif lythrennau.
Y testun ei hun
[golygu]Syrthia erthyglau Wiciquote i mewn i sawl grŵp gwahanol: pobl, gweithiau credaigol, llefydd, a themâu. (Ceir grŵpiau cefnogol eraill, megis categorïau, rhestrau, a.y.b., ond maent oll yn dilyn yr arferion ar gyfer erthyglau thema). Mae gan bob grŵp ei gonfensiynnau ei hun. Yn gyffredinol fodd bynnag, dilyna Wiciquote arferion enwi Wicipedia gan amlaf, ac felly mae edrych i weld a oes erthygl gwyddoniadurol ar destun eich erthygl dyfyniad yn darparu'r teitl cywir fel arfer.
Mae enwau pobl yn dilyn arferion gwahanol, yn dibynnu ar eu tarddle:
- Ar gyfer y rhan fwyaf o enwau Gorllewinol, defnyddiwch y ffurf "Enwcyntaf Cyfenw" (h.y., "Enwaddefnyddir Enwteuluol") (e.e., Rhodri Morgan). Peidiwch cynnwys enwau canol oni bai yr adnabyddir y person yn ôl ei enw estynedig (e.e., Ian Duncan Smith).
- Ar gyfer y rhan fwyaf o enwau Dwyreiniol, defnyddiwch y ffurf y caiff yr enw ei ysgrifennu gan amlaf (e.c., Ali ibn Abi Talib). Defnyddiwch y trawslythreniadau cymeriad-Lladinaidd ar gyfer enwau a ysgrifennwyd yn wreiddiol mewn llythrennau na sydd yn Lladinaidd.
- Ar gyfer enwau brenhinol, defnyddiwch y ffurf "Enw RhifRhufeinig o Cenedl" (e.e., William I o Loegr).
Dylai gweithiau creadigol ddilyn eu henwau "swyddogol" ym mha le bynnag posib.
- Ar gyfer gweithiau llenyddol, gellir dod o hyd i hyn ar y dudalen cyhoeddi tu fewn y clawr.
- Ar gyfer ffilmiau, gan amlaf defnyddia Wiciquote y prif deitl a gyflwynir gan y Internet Movie Database (IMDb).
Prin yw'r enwau llefydd fel pynciau mewn erthyglau Wiciquote. Yn gyffredinol, dylent ddilyn confensiynnau Wicipedia.
Mae themâu a phob erthygl arall sy'n ddi-gywir yn rhy gyffredinol i gael unrhyw arferion ffurfiol, ond gellir ystyried yr arferion llac hyn:
- Ceisiwch sicrhau fod teitl yr erthygl yn ddigon cyffredinol i annog casgliad sylweddol o ddyfyniadau (hyd yn oed os mai dim ond un dyfyniad sydd gennych i ddechrau). Enghraifft: peidiwch creu erthygl ar gyfer dyfyniadau o araith unigol, ond yn hytrach rhowch e mewn erthygl am y person a draddododd yr araith.
- Ceisiwch ddefnyddio teitlau cryno ar gyfer erthyglau. Enghraifft: Mae "Ffiseg Cwantwm" yn well na "Mecaneg Cwantwn, elecrodeinameg a theori maes".
Ar gyfer erthyglau thema, mae'n arbennig o bwysig i edrych am erthyglau sy'n bodoli eisoes yn gyntaf a allai gynnwys y dyfyniadau yr hoffech chi eu hychwanegu. Os yw pwnc yn casglu digon o ddyfyniadau i haeddu ei erthygl ei hun, gellir creu'r erthygl newydd yn ddiweddarach.
Sut i ddefnyddio prif lythrennau
[golygu]Dilyna erthyglau Wiciquote ddefnydd Wicipedia o brif lythrennau; hynny yw, yn defnyddio prif lythyren ar gyfer y gair cyntaf a phob enw priod, ond nid ar gyfer geiriau eraill. Mae hyn yn wir ar gyfer themâu a chategorïau yn bennaf (yn ogystal â phennawdau adran mewn erthyglau), na sydd yn enwau priod. Ystyrir enwau pobl a llefydd ac theitlau gweithiau artistig (llyfrau, ffilmiau a.y.b.) yn enwau priod, ac felly dilynant yr arfer o ddefnyddio prif lythyren ar gyfer pob gair heblaw am erthyglau, rhagddodiaid, a chysyllteiriau. Gweler yr enghreifftiau isod:
- Geiriau ar gofeb (prif lythyren ar gyfer thema)
- Ffilmiau'r Unol Daleithiau (prif lythyren ar gyfer categori; prif lythyren ar gyfer enw priod mewnol)
- Stranger in a Strange Land (prif lythyren ar gyfer enwau priod yn y teitl)
- Charles de Gaulle (prif lythyren ar gyfer enw priod enw person)
- South American Community of Nations (proper-noun capitalization for place name)
Nodyn arbennig ynglyn â gweithiau creadigol: Mae nifer o weithiau'n arddangos teitlau i gyd mewn prif lythrennau, rhai mewn llythrennau bychain yn unig, ac eraill yn gyfuniad o'r ddau. Weithiau gwneir hyn am effaith artistig, ond gan amlaf, mae'n ymwneud ag arferion arddull y cyhoeddwr. Mae Wiciquote yn anwybyddu'r amrywiadau cyhoeddi hyn ac yn defnyddio prif lythrennau geiriol safonol (prif lythyren ar gyfer y gair cyntaf, popeth arall mewn llythrennau bychain), ag eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Os nad ydych yn siwr...
[golygu]Os nad ydych yn siwr sut i enwi neu ddefnyddio prif lythyren mewn erthygl, gallwch ofyn yn y Y Caffi, gofyn i weinyddwyr, neu fwrw ati i greu'r erthygl gan ddefnyddio'ch synnwyr cyffredin. Mae'n gymharol hawdd trwsio problemau gyda theitlau ar ôl iddynt gael eu creu.
Sut i ddechrau erthygl newydd
[golygu]Mae yna bedwar prif ffordd o ddechrau tudalen newydd:
- Defnyddio "blwch mewnbwn" i gynnwys nodyn erthygl sydd wedi ei fformatio'n awtomatig.
- Clicio ar "ddolen goch", sy'n cynrychioli erthygl na sydd yn bodoli eto.
- Defnyddio'r blwch chwilio i greu dolen i olygu erthygl newydd.
- Newid URL Wiciquote URL i gynnwys paramedrau i greu erthygl newydd. (Ddim yn cael ei argymell ar gyfer dechreuwyr ar y wici.)
Bydd pob un o'r dulliau hyn yn agor ffenest olygu gyda'r teitl rydych chi wedi gofyn amdano. Mae'r un cyntaf, nodwedd newydd ar Wiciquote, yn eithaf defnyddiol ar gyfer newydd-ddyfodiaid a phobl sydd wedi bod yn golygu ers cryn dipyn o amser.
Defnyddio blwch mewnbwn
[golygu]Mae'r meysydd cynnwys testun canlynol yn eich galluogi i deipio teitl erthygl a neidio'n syth i dudalen olygu. Mantais ychwanegol yw bydd gan y dudalen demplad sydd wedi ei lenwi eisoes gyda themplad addas, a allai arbed gwaith ychwanegol i chi ac yn eich cynorthwyo i gydymffurfio ag edrychiad a theimlad safonol Wiciquote.
Pobl | Teledu | |||
---|---|---|---|---|
Gweithiau llenyddol |
Casgliadau o ddiarhebion |
|||
Ffilmiau | Thema | |||
Ailgyfeirio | Cyffredinol |
Dewiswch y templad sydd fwyaf addas ar eich cyfer. Sicrhewch eich bod yn newid yr holl destun enghreifftiol a grewyd gyda'ch testun penodol, a dilewch unrhyw destun opsiynnol nad ydych yn defnyddio.
Dilyn dolenni coch
[golygu]Gellir creu tudalennau newydd drwy ddilyn dolen i dudalen na sydd yn bodoli eto (a elwir hefyd yn "ddolen goch" oherwydd y ffordd mae'n edrych yn y "croen" awtomatig, neu steil y dudalen). Os oes yna ddolen goch eisoes, yn syml gallwch glicio ar y ddolen honno. Os nad oes dolen goch, gellir creu un. Er enghraifft, mae Rhestr o bobl yn ôl enw yn fan defnyddiol o ychwanegu dolen ar gyfer erthygl newydd am berson. Hefyd gallwch greu dolen o'r fath yn y Wikiquote:Pwll tywod, yn ogystal ag o'ch tudalen defnyddiwr. Techneg mwy cymhleth yw creu'r ddolen ar unrhyw dudalen, ond peidio "Cade'r dudalen", ond yn hytrach defnyddio'r botwm "Dangos rhagolwg" er mwyn neidio i'r ddolen goch. (Ni argymhellir y dechneg olaf hon ar gyfer newydd-ddyfodiaid oherwydd y tebygolrwydd o gadw'r dudalen ar ddamwain.)
Os oes gan Wicipedia erthygl wyddoniadurol ac yr hoffech greu erthygl o ddyfyniadau cyfatebol ar Wiciquote, gallwch ychwanegu'r nodyn {{wikiquote}} neu ddolen [[q:Enw]] yn yr erthygl Wicipedia er mwyn creu tudalen na sydd yn bodoli ar Wiciquote. Trwy ddilyn y ddolen honno, gallwch greu'r erthygl. (Sylwer nad yw'r math hon o ddolen rhyngwici yn goch, ond bydd dal yn neidio i dudalen olygu ar gyfer yr erthygl Wiciquote.)
Defnyddio'r blwch chwilio
[golygu]Am ei fod yn syniad da i edrych i weld os oes erthygl yn bodoli eisoes cyn i chi ei chreu, gallwch deipio teitl yr erthygl yn y blwch Chwilio (ar ochr chwith y dudalen) ac yna clicio ar "Mynd". Os nad yw'r erthygl yn bodoli, bydd yr ymateb i'r chwiliad yn cynnwys y testun:
- "Creu'r dudalen teitl yr erthygl ar y wici hwn!".
Bydd clicio ar yr ymadrodd "teitl yr erthygl" yn agor tudalen olygu ar gyfer y teitl hynny. SYLWER: Sicrhewch eich bod yn gwirio'r confensiynnau enwi uchod cyn chwilio, oherwydd mae'n bosib fod erthygl gydag enw neu sillafiad ychydig yn wahanol yn bodoli eisoes ar Wiciquote.
Golygu URLs
[golygu]Mae'n bosib golygu'r URL yn y blwch "Cyfeiriad" gyda'r mwyafrif o borwyr. Ystyrir y dechneg hon yn gymhleth, am fod angen gwneud newidiadau'n aml, megis newid bylchau i dansgôrau ("_") ac ychawanegu "&action=edit" i ddiwedd yr URL. O ganlyniad, ni argymhellir y dechneg hon ar gyfer unrhyw un ac eithrio defnyddwyr profiadol y wici.