Umberto Eco

Oddi ar Wikiquote
Mae arwr go iawn bob amser yn arwr drwy gamgymeriad; mae'n breuddwydio am fod yn lwfrgi onest fel pawb arall.

Athronydd a nofelydd Eidalaidd yw Umberto Eco (ganed 5 Ionawr 1932 - 2016).

Gweler hefyd:

Foucault's Pendulum (1989)
The Island of the Day Before (1994)

Dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

Dim ond trwy wneud iaith y ddelwedd yn sbardun ar gyfer myfyrdod beirniadol y bydd gwareiddiad ddemocrataidd yn achub ei hun - nid gwahoddiad am hypnosis.
Yn eisiau cysylltiadau, darganfyddason gysylltiadau — bob amser, bob man, a rhwng bob peth. Ffrwydrodd y byd yn rwydwaith chwyrliog o adnabyddiaeth, lle pwyntiai bopeth at bopeth arall, lle esboniai bopeth popeth arall… ~ Foucault's Pendulum
Ni chreir llyfrau er mwyn eu credu, ond er mwyn iddynt fod yn destun ymholiad.
  • Yn yr Unol Daleithiau, proffesiwn yw gwleidyddiaeth, tra'i fod yn hawl a dyletswydd yn Ewrop.
    • Rhagair i'r fersiwn Americanaidd o Travels in Hyperreality (1986)
  • Mae arwr go iawn bob amser yn arwr drwy gamgymeriad; mae'n breuddwydio am fod yn lwfrgi onest fel pawb arall. Pe bai'n bosib, byddai wedi datrys y mater mewn ffordd wahanol, a heb dywallt gwaed. Nid yw'n ymffrostio am ei farwolaeth ei hun nac eraill'. Ond nid yw'n edifarhau. Dioddefa a chadwa ei geg ynghau; os unrhyw beth, bydd eraill yn ei ecsploitio, yn creu chwedl ohono, tra'i fod ef, y dyn sy'n haeddu bri, dim ond yn greadur gwan a ymatebodd gyda dewrder ac urdda mewn digwyddiad a oedd yn fwy nag ef.
    • "Why Are They Laughing In Those Cages?", yn Travels in Hyperreality : Essays‎ (1986), Ch. III : The Gods of the Underworld, p. 122
  • Nid wyf yn gweld eisiau fy ieuenctid. Dw i'n falch mod i wedi cael un, ond fuaswn i ddim yn hoffi dechrau un arall o'r chychwyn.
    • "On the Disadvantages and Advantages of Death" yn La mort et l'immortalié, golygwyd gan Frédéric Lenoir (2004)


Dolenni allanol[golygu]