Neidio i'r cynnwys

T Gwynn Jones

Oddi ar Wikiquote

Newyddiadurwr, bardd, ysgolhaig a nofelydd oedd T. Gwynn Jones, enw llawn Thomas Gwyn Jones (10 Hydref, 1871 – 7 Mawrth 1949). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaeth Gymraeg, ysgolheictod Cymreig ac astudiaethau llên gwerin yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Yr oedd hefyd yn gyfieithydd medrus o'r Almaeneg, Groeg, Gwyddeleg a Saesneg. Roedd yn frodor o Fetws yn Rhos yn yr hen Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw).

Dyfyniadau gyda ffynhonnell

[golygu]

Byd gwyn fydd byd o gano,
Gwaraidd fydd ei gerddi fo.

  • Rhaglen Eisteddfod Gydwladol Llangollen (1947)


"Draw dros y don mae bro dirion nad ery
Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery
Na haint na henaint fyth mo'r rhai hynny
A ddêl i'w phur, rydd awel, a phery
Pob calon yn hon yn heiny a llon,
Ynys Afallon ei hun sy felly.

  • Ymadawiad Arthur: Caniadau T. Gwynn Jones, Hughes a'i fab, Wrecsam, (1934) tud 33


Onid hoff yw cofio'n taith
Mewn hoen i Benmon, unwaith?
Odidog ddiwrnod ydoedd,
Rhyw Sul uwch na'r Suliau oedd
I ni daeth hedd o'r daith hon,
Praw o ran pererinion.

  • Penmon Caniadau T. Gwynn Jones, Hughes a'i fab, Wrecsam, (1934) tud 172


Pe cawn i egwyl ryw brynhawn,
Mi awn ar draws y genlli,
A throi fy nghefn ar wegi'r byd,
A'm bryd ar Ynys Enlli.

Mae yno ugain mil o saint
Ym mraint y môr a'i genlli,
Ac nid oes dim a gyffry hedd
Y bedd yn Ynys Enlli.

Na byw dan frad y byd na'i froch,
Fel Beli Goch neu Fenlli,
On'd gwell oedd huno dan y gŵys
Yn nwys dangnefedd Enlli?

  • Ynys Enlli Caniadau T. Gwynn Jones, Hughes a'i fab, Wrecsam, (1934) tud 191