Robert Everett

Oddi ar Wikiquote

Cymro Americanaidd oedd Robert Everett (2 Ionawr, 1791 - 25 Chwefror 1875) a fu'n enwog yn ei ddydd am ei waith yn hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg a chrefydd yn yr Unol Daleithiau ac yn enwedig am ei safiad cyhoeddus yn erbyn caethwasanaeth pobl dduon. Yn 2022, yn dilyn gwaith ymchwil gan yr Americanwr Jerry Hunter, cafodd Everett ei dderbyn i'r National Abolition Hall of Fame and Museum yn Efrog Newydd oherwydd ei safiad yn erbyn caethwasanaeth.

Dyfyniadau[golygu]

Anghysondeb.—O'r fath anghysondeb! baner fawr rhyddid yn chwareu yn y teneu awelon ar ben pinacl y senedddy, a'r gair Liberty ar ei lleni mewn llythyrenau mor freision ag y gall y rhai a redant eu darllen; ac eto o flaen grisiau marmoraidd y senedd-dy, yn ngwydd haul y nefoedd, y gwerthir gwyr a gwragedd, meibion a merched o bob oedran, o'r baban egwan i'r henafgwr penllwyd, i gaethfeistri, i gael eu harwain ganddynt wrth eu hewyllys. (Cofiant y diweddar Barch Robert Everett gan David Davies (Dewi Emlyn), Utica 1879 tud 352)