Owain Owain
Gwedd

Llenor, ysgolhaig ac ymgyrchydd gwleidyddol oedd Owain Owain (ganed 11 Rhagfyr, 1929 - 4 Rhagfyr, 1993).
Dyfyniadau
[golygu]Ysgrifau
[golygu]- Cwrteisi cynhenid y Cymro yw gelyn pennaf yr iaith Gymraeg.
- Pan fo argyhoeddiadau lleiafrif yn gwrthdaro yn erbyn rhagfarnau mwyafrif, ni ellir gweithredu'n gyfiawn bob amser heb weithredu'n anghyfreithlon hefyd.
- Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.
- cyhoeddwyd yr erthygl 'Oni Enillir y fr Gymraeg' yn Y Cymro, 12 Tachwedd, 1964; ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971). Gw. hefyd Y Faner 26.11.1964.
- Oni achubir y Fro Gymraeg, nid Cymru ond rhyw dalaith orllewinol, Brydeinig a ddaw'n 'rhydd' o grafanc Llundain.
- Allan o Yr Iaith - Arf Wleidyddol; ysgrif a gyhoeddwyd yn Y Faner; 12 Tachwedd 1964.
- Yr amrywiaeth sy'n ein byd yw gwir gyfoeth dynoliaeth; o golli'r amrywiaeth, unffurfiaeth lwyd, nid undod a geir.
- Llon Gyfarchion gan Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Gwasg Gee, Dinbych 1977 (Llyfr llofnofion i ddathlu penblwydd yr ysgol)
- Mae tystiolaeth ein pobol wedi'i Phrydeinio - gan gofio mai cyfystyron yw "Seisnig" a "Phrydeinig," bellach. Yn gyfrwys, yn graff, yn gwbl fwriadol, Prydeiniwyd tystiolaeth ein pobol.
- Allan o ysgrif 'Y dystiolaeth brydeinig'; (Cyhoeddwyd yn Y Faner, 21 Hydref, 1965. Dosbarthwyd ar ffurf pamffled, (1,750 o gopïau) ar 26 Hydref, 1965). Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
- Mae unrhyw ymgais i gryfhau cenedligrwydd Cymru mewn cyd-destun Prydeinig yn sicr o fethu. Un peth, ac un peth yn unig a all warantu llwyddiant - ewyllysio i'r dystiolaeth Brydeinig gael ei gwrthod yn llwyr.
- Allan o ysgrif 'Y dystiolaeth brydeinig'; (Cyhoeddwyd yn Y Faner, 21 Hydref, 1965. Dosbarthwyd ar ffurf pamffled, (1,750 o gopïau) ar 26 Hydref, 1965). Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
- Y mae unrhyw ystyr clodwiw y gellir ei briodoli i fywyd heddiw, ac unrhyw werth parhaol y gellir ei briodoli i fywyd ddoe, yn dibynnu ar barhad a chryfder yr iaith Gymraeg a'i diwylliant a feithrinwyd ac a feithrinir drwy gyfrwng yr iaith honno; nid i Gymru a'i phobl yn unig, ond i fyd dynion benbaladr; canys fe fydd diflaniad yr iaith Gymraeg yn gyfystyr â rhoi sêl oferedd ar yr hyn oll a fu yn hanes y byd yr ydym ni yn rhan ohono.
- allan o ysgrif 'Y Tri Llwybr' a gyhoeddwyd yn Barn, Gorffennaf, 1969. Ad-argraffwyd yn y gyfrol Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
Nofelau
[golygu]- Mor hawdd yw’n cyflyru! I mi, hyd yn oed — un o’r Ychydig dethol sy’n berchen cyfrinach y platinwm — mae’r Uchel Gyfrifydd yn fwy o ddyn nag o beiriant. Mae ganddo ‘bersonoliaeth’, a ‘chnofeydd yn ei grombil’!
- Peiriant yn ddyn — a dynion yn beiriannau.
- allan o Y Dydd Olaf (ISBN: 9780715402894 (0715402897); cyhoeddwyd Awst 1976 gan Wasg Christopher Davies, Abertawe); atgynhrchwyd ar y we am ddim ar wefan slebog.net.
- fratolish hiang perpetshki
- allan o Y Dydd Olaf (ISBN: 9780715402894 (0715402897); cyhoeddwyd Awst 1976 gan Wasg Christopher Davies, Abertawe); atgynhrchwyd ar y we am ddim ar wefan slebog.net. Ceir cân o'r un enw gan Gwenno Saunders. Y Dydd Olaf
- Eironi diderfyn yw bywyd.
- allan o Y Dydd Olaf (ISBN: 9780715402894 (0715402897); cyhoeddwyd Awst 1976 gan Wasg Christopher Davies, Abertawe); atgynhrchwyd ar y we am ddim ar wefan slebog.net. Ceir cân o'r un enw gan Gwenno Saunders. Y Dydd Olaf
Nodion Gwyddonol, Y Cymro
[golygu]- Onid yw Cymru (fel Ulster) yn un o drefedigaethau olaf Lloegr? Onid "wogs" ydym ninnau hefyd? Nid gorymdeithio'n unig gyda beirdd a meiri a wna Byddin Rhyddid Lloegr [ar Sul y Cofio]. Siarad yn wych a gweithredu'n groes. Oes gwlad mwy ragrithiol na Lloegr?
- Rhif 45. 4 Mawrth 1970.
- Mae ein sefydliadau Cymreig yn gwbwl ddall i'r ymddoctrineiddio gwleidyddol gwrth-Gymreig... drwy gyfrwng yr iaith, llyfrau Saesneg a gogwydd Seisnig. Pa obaith sydd i'n sefydliadau Cymreig fedru gwrthsefyll y dulliau cyflyru annynol sydd ar y gweill.
- Rhif 40. 28 ionawr 1969.
- Un o daleithiau'r Unol Daleithiau yw Lloegr.
- Rhif 30. 19 Tachwedd 1969.
- I un sydd wedi datgan ei bryder ynghylch cwlt y cyfrifydd (computer) dros gyfnod o amser,... yr effaith yn y tymor byr fydd diflaniad rhyddid personol yr unigolyn. Gyda chyfrifyddion modern, mae rheoli pobl yn llawer haws.' Yr ateb? Brwydro dros y lleiafrifoedd.
- Rhif 22. 19 Medi 1969
- Cafodd y fraint o roi 'Syr' o flaen ei enw am iddo gryfhau muriau'r Sefydliad.'
- Rhif 17. 13 Awst 1969.
- Ceir mwy a mwy o'r gwenwyn "gwrteithiol" i halogi'r pridd [chwynladdwyr], mwy a mwy o wenwyn trychfilod a chwyn i ddifwyno'r amgylchfyd byw a suro cynghanedd Natur. Elw cynyddol tros-dro gyda'r dyfodol agos yn talu'n ddrud am y llygru, yr erydu a'r rheibio. Dwysheir y tueddiadau hunan-lofruddiol sy'n nodweddu ein hamaethu economegol heddiw. Hawdd anghofio'r dyfodol pan fo'r presennol yn cynnig elw parod.
- Rhif 16. 6 Awst 1969.
Dyfyniadau amdano
[golygu]- Nid oedd yn ffigwr cyhoeddus ar lwyfannau gwleidyddol ond roedd yn un o'r rhai pennaf i osod seiliau Cymdeithas yr Iaith. Cawr o ddyn.
- Dafydd Iwan yn ei gyfrol Pobol Dafydd Iwan, Gwasg y Lolfa (2015) (tudalen 125).
- Gwelai Owain frwydr y Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, a gwelai ein diwylliant fel caleidosgop amryliw gyda'r iaith fel canolbwynt.
- Dafydd Iwan ar wefan O.O (owainowain.net)
- Proffwyd tanbaid y deffroad iaith yng Nghymru.
- Emyr Llewelyn, Y Faner Newydd, Rhif 35, Rhagfyr 2005.
- Ym Mangor, gan Owen Owen (Owain Owain wedyn, fel yr hysbysodd, wedi Calan 1965) a'i gefnogwyr yr oedd yr unig gangen go-iawn. Wedi magu profiad yn herio'r coleg gwrthnysig, aeth ati fel mudiad ynddo'i hun.
- Gwilym Tudur, Wyt ti'n Cofio? (ISBN: 9780862431839 (0862431832) Gwasg y Lolfa; 1989)
- Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn (Y Dydd Olaf) yn ein hiaith o'r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith! Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosib yn y Gymraeg.
- Pennar Davies; Rhagair Y Dydd Olaf; (ISBN: 9780715402894 (0715402897); cyhoeddwyd Awst 1976 gan Wasg Christopher Davies, Abertawe); atgynhrchwyd ar y we am ddim ar wefan slebog.net.
- Hon [Cell Bangor o Gymdeithas yr Iaith] oedd yr unig gangen weithredol go-iawn... gellir yn hawdd awgrymu mai Owain Owain oedd Cymdeithas yr Iaith yn y cyfnod yma (1963-65).
- Geraint Jones (Brwydr yr Iaith; (Gwasg y Lolfa; 2025).
- Arloesol yw'r gair i ddisgrifio Owain. Sylweddolodd rym y pethau bychain, a'u rhoi ar waith. Cyn bod sôn am Gymdeithas yr Iaith galwodd y gyfres o bamffledi yn Tafod y Ddraig...
- Maldwyn Lewis yn ei gyfrol Wir yr!, 2006.