Oscar Wilde

Oddi ar Wikiquote
Oscar Wilde

Bardd, nofelydd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn yr iaith Saesneg oedd Oscar Fingal O'Flahertie Wills Wilde (16 Hydref 1854 - 30 Tachwedd 1900). Roedd yn enwog am ei ffraethineb a datblygodd i fod yn un o ddramodwyr mwyaf llwyddiannus diwedd y cyfnod Fictorianaidd yn Llundain ac yn un o ser mwyaf ei gyfnod.

Dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

  • Beth ydy sinig? Un a ŵyr bris pob peth heb wybod gwerth dim.
    • Lady Windermere's Fan, Act 1 (1892)

Dyfyniadau[golygu]

  • Cysondeb yw dihangfa olaf y rhai diddychymyg.
  • Nid yw rhywbeth o angenrheidrwydd yn wir gan fod dyn yn fodlon marw drosto.
  • Nid oes pechod heblaw am dwpdra.
  • Mae'n gwbl warthus y ffordd mae pobl y dyddiau hyn yn dweud pethau tu ol i gefnau dyn, sydd yn gwbl a chyfangwbl wir.
  • Mae pob menyw yn mynd fel eu mamau. Dyna yw eu trychindeb. Nid yw'r un dyn yn. Dyna yw ei drychineb yntai.
  • Pa bryd bynnag mae cyfaill yn llwyddo, mae rhywbeth bach ynof yn marw.
  • Gallaf ymwrthod ag unrhyw beth heblaw am demtasiwn.