Nhat Hanh

Oddi ar Wikiquote
Nid y wyrth yw i gerdded ar ddwr. Y wyrth yw i gerdded y ddaear werdd yn y presennol, i werthfawrogi'r heddwch a phrydferthwch sydd ar gael nawr.

Mynach Bwdaidd o Fietnam, ymgyrchydd heddwch ac awdur toreithiog yn Fietnameg a Saesneg ydy Thich Nhat Hanh (ganed 11 Hydref 1926 - 2022-01-22). Gan amlaf, cyfeirir ato fel Thich Nhat Hanh, lle mae'r teitl Fietnameg Thích (釋), a ddaw o "Thích Ca" neu "Thích Già" (釋迦) ac a ddefnyddir ar gyfer pob mynach a lleian Fietnamaidd, yn golygu "o lwyth y Shakya (Shakyamuni Buddha)".

Dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

Mae gennym fwy o bosibiliadau ar gael nag yr ydym yn sylweddoli.
Mae'n fendigedig i fod yn fyw a cherdded y ddaear
Rwyt yn wyrth, a gallai popeth y cyffyrddi fod yn wyrth.
  • Pan rydych yn deall gwreiddiau dicter ynoch eich hun ac mewn eraill, bydd eich meddwl yn mwynhau heddwch, llawenydd a goleuwch gwirioneddol