Mererid Hopwood
Bardd o Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, yw Mererid Hopwood. Ganed yng Nghaerdydd yn 1964 cyn iddi ddychwelyd i gynefin ei theulu yn Sir Benfro. Hi oedd y ferch gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, a gwnaeth hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
[golygu]Saesneg yw iaith yr amserau,
a Saesneg yw iaith y dail,
Saesneg yw mêl y gorllewin gwyllt
a Saesneg yw iaith yr haul.
Saesneg yw’r annibynnol,
a’r ceidwad sy’n ein cadw ni gyd,
cans fe gollon ni’r cyfle i newid y drefn,
a rhoi Cymraeg yn iaith i’r byd.
A thro bo cynifer yn gweiddi,
a’u cegau nhw led y pen,
ni all fod eu calon am siarad Cymraeg -
os yw’r byd mynd i ddod i ben.
Ac wrth dy fod heno yn cwyno
am golli yr heniaith o hyd,
hola dy hunan, beth, tybed, wnest ti
i achub Cymraeg drwy ein byd?[1]