Llinyn Trôns

Oddi ar Wikiquote

Nofel gan Bethan Gwanas ydy Llinyn Trôns. Mae'r nofel ar gwrs Llenyddiaeth TGAU CBAC.

Dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

  • Dad ydi Hitler. A does neb byth yn gallu newid ei feddwl... Mae Merfyn, fy mrawd mawr perffaith, chwe troedfedd, gwallt melyn, dim plorod, 'A' yn bob diawl o bob dim...yn gallu ei droi o weithiau, ond does gen i ddim gobaith tortois yn Ras yr Wyddfa.
    • Hunanddelwedd isel Llion Jones o bennod gyntaf y nofel


  • Ond dyna fo, hogyn tawel ydw i, yn hapus efo 'nghwmni fy hun a'm cyfrifiadur a dw i ddim isio mynd ar y blydi cwrs tridiau 'ma i ryw gwt oer ar ben ryw fynydd ynghanol nunlle i 'neud rhyw giamocs 'awyr agored'.
    • Crynodeb o bersonoliaeth Llion Jones, y prif gymeriad


  • Mae ganddo gorff fel tarw ar steroids.
    • Gwybodaeth am gymeriad Tecwyn Jones, yr athro Addysg Gorfforol.


  • 'Ro'n i'n meindio'n musnes gynnau, yn brwsho 'nannedd yn y stafell molchi sydd fel rhywbeth allan o Alcatraz, pan ddaeth Nobi a Gags o rywle a 'nghodi fi oddi ar y llawr a mynd â fi i mewn i'r lle chwech. Roeddan nhw'n piso chwerthin a finnau'n gweiddi ac yn gneud fy ngorau glas i gicio a dyrnu. Ond mae Nobi'n hen ddiawl cry - allwn i ddim symud. Mi gododd fi gerfydd fy nghoesau, tra oedd Gags yn dal fy mreichiau, a gwthio 'mhen i lawr y pan. Ro'n i isio chwydu. Roedd yr oglau yn afiach, ac wedyn dyma nhw'n tynnu'r tsiaen. Ro'n i wir yn meddwl 'mod i'n mynd i foddi.
    • Enghraifft o'r modd y mae cymeriadau Gags a Nobi'n bwlio Llion pan maent yn y gwersyll awyr agored.


  • Fydda i'm yn gwylltio'n aml. Dw i'n tueddu i gadw pob dim i mewn, ond bob hyn a hyn, mi fydda i'n ffrwydro ac yn mynd yn hollol boncyrs, wallgo bost, ac yn ffustio pob dim o fewn cyrraedd...

Ta waeth, ma sêt y toilet 'na yn ddarnau rŵan, a'r papur bog dros y lle i gyd...

    • Tymer wyllt Llion sy'n deillio o'i deimladau o rwystredigaeth.


  • Dyma fi'n dechrau sylweddoli 'mod i'n teimlo'n rhyfedd...roedd o'n rhywbeth nad o'n i wedi ei deimlo ers blynyddoedd maith. Roedd fy mhen-ôl i'n wlyb, a mhyjamas i'n glynu wrth fy nghroen.
    • Esiampl o Gags a Nobi yn bwlio Llion drwy arllwys dwr ar ei wely pan mae'n cysgu gan adael iddo feddwl ei fod wedi gwlychu ei hun.


  • "Be sy Llinyn Trôns?" holodd Nobi hefo llond ceg o Fars Bar. "Y coesau dryw bach 'na'n popo ydyn didyms? Ti di cofio newid dy glwt, do? Haaaa-ha!"
    • Gags a Nobi'n bwlio Llion yn eiriol pan ar y daith gerdded.


  • Ar ôl tua deng munud arall o gerdded, roedd hi (Gwenan) yn llusgo y tu ôl i bawb eto, felly mi wnes i arafu er mwyn cerdded hefo hi. Roedd hi'n edrych mor bathetig, ro'n i'n teimlo drosti, bechod. Ddeudais i ddim byd, a ddeudodd hithau'r un gair chwaith, ond rown i'n gallu gweld ei bod hi'n falch ei bod hi ddim ar ei phen ei hun...
    • Natur garedig personoliaeth Llion sy'n denu gweddill y cymeriadau ato erbyn diwedd y nofel.


  • Ti’n edrych fatha runner bean.
    • td.37 Disgrifiad o Llion Jones tran'n gwisgo siwt wlyb.


  • Roedd yr awyr yn las ac yn gneud i bobman edrych reit braf ac yn llai o Auschwitz.
    • td.46 Disgrifiad o'r ganolfan awyr agored


  • Roedden nhw’n troelli i fyny’r graig ynghanol y coediach, ac roedd y dŵr oedd yn diferu’n rhaeadrau bychain bob ochr i’r creigiau’n gneud i’r lle edrych yn reit ecsotig, bron fel jyngl, fel rhwbath allan o Jurassic Park.
    • td.72 Disgrifiad o'r goedwig