Hywel Teifi Edwards

Oddi ar Wikiquote

Llenor, ysgolhaig ac ymgyrchydd oedd Hywel Teifi Edwards (ganed 15 Hydref, 1934 - 4 Ionawr, 2010.

Dyfyniadau amdano[golygu]

  • Bydd colled fawr yn dilyn marwolaeth Hywel Teifi Edwards. Yn arbenigwr ar hanes yr Eisteddfod, roedd ganddo’r ddawn anghyffredin i gydio’n ei gynulleidfa a’i diddanu o’r cychwyn cyntaf. Byddwn yn cofio’r sesiynau lu yn y Babell Lên dros y blynyddoedd, gyda Hywel Teifi’n mynd i hwyliau a phawb wrth eu boddau. Bydd y Babell Lên, yr Eisteddfod Genedlaethol a Chymru gyfan yn dipyn tlotach o hyn ymlaen.
    Roedd ei fwrlwm yn heintus, a’i arddeliad yn gwbl ddi-dwyll, ac fe fyddwn yn cofio’i safiadau dros yr iaith a thros ein gwlad gyda pharch a thristwch heddiw. Roedd yn gyfaill mawr i’r Eisteddfod, yn barod ei gymorth a’i gefnogaeth bob amser."
    • Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol


  • "Colled fawr i Gymru ac i’r Academi gafwyd o farwolaeth Hywel Teifi Edwards. Mae pawb yn gwybod am ei dalentau, am ei hoffterau a’i gasbethau, am ei ffraethineb a’i ddoniolwch - yn ogystal â’i deimladau angerddol tuag at chwaraeon.
    Ond mae’n debyg mai ei rinwedd mwyaf oedd ei fod yn ysgolhaig ymrwymedig, yn gwneud ei dro yn nhŵr academia, ond yn mynnu cyfathrebu â phobl, ‘cyffredin ac ysgolhaig’, gyda’i genhadaeth dros lenyddiaeth, celfyddyd, cenedlaetholdeb a gwerthoedd crefyddol. Mewn llawer ffordd, roedd yn debyg i’r ysgolhaig/genhadwr arall hwnnw, y diweddar Bedwyr Lewis Jones. Diolch amdanyn nhw; maen nhw’n adar prin."
    • Harri Pritchard Jones, Cadeirydd yr Academi


  • "Des i nabod Hywel Teifi yn dda pan oedd o’n ymgeisydd dros y Blaid yng Nghaerfyrddin a finnau yn Ynys Mon yn 1987 a ddaru ni gydweithio’n agos gyda’n gilydd bryd hynny. Roedd yn ymgyrchydd brwd iawn dros yr iaith, a thros ein gwlad. Tro diwethaf i mi rannu llwyfan gydag o roedd o’n galw am y mesur newydd ar gyfer hawliau ieithyddol a sefydlu comisiynydd ac mae'r ffaith ein bod ni ar fin llwyddo i gael y pwerau yma yn ddiolch i’w ymgyrchu.
    Roedd yn hanesydd ac ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn awdur toreithog, yn sylwebydd craff ac yn Gymro i'r carn. Dyma Gymro balch a ysbrydolodd cynifer o gyd-Gymry i ymgyrchu dros yr hyn yr oeddent yn ei gredu. Mae ei gyfraniad at yr iaith, ac at Gymru yn enfawr.
    • Ieuan Wyn Jones AC, Arweinydd Plaid Cymru

Dolenni allanol[golygu]