Gweledigaethau Y Bardd Cwsc
Llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd gyntaf yn 1703 yw Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne. Ystyrir y llyfr yn brif waith llenyddol Wynne, ac yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg y 18g.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Dyfyniadau
[golygu]A DDARLLENO, ystyried;
A ystyrio, cofied;
A gofio, gwnaed;
A wnel, parhäed.
A barhao'n ffyrdd Rhinwedd,
Gan ymryddhau o'i gamwedd,
Fwyfwy fyth hyd ei ddiwedd,
Ni fedd a bortho'r fflam ffiaidd,
Na phwys a'i sawdd i'r Sugnedd;
Nid ä byth i Wlad y Dialedd,
Penydfan pob Anwiredd.
Ond y difraw gwael a geulo
Ar ei sorod, a suro
(Nid byw y Ffydd na weithio)
A hirddrwg hir-ddilyno,
Heb Grod a Charind effro;
Gwae, gwae tragwyddol iddo!
Fe gaiff weled theimlo
Fwy mewn mynyd llym yno,
Nag a fedr oes ddyfeisio.
Ar ryw brydnawngwaith teg o haf hir felyn tesog, cymmerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbïenddrych, i helpu'm' golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr. Trwy yr awyr deneu eglur, a'r tes ysblenydd tawel, canfyddwn ym mhell bell, tros Fôr y Werddon, lawer golygiad 'hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, onid[ oedd yr haul ar gyrhaedd ei gaerau yn y Gorllewin, gorweddais ar y gwelltglas, tan syn fyfyrio deced a hawddgared (wrth fy ngwlad fy hun) oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd tirion; a gwyched oedd gael arnynt lawn olwg; a dedwydded y rhai a welsent gwrs y byd, wrthyf fi a’m bath. Felly, o hir drafaelio â'm llygad, ac wedi â'mmeddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i'm rhwymo; ac â'i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid, a'm holl synwyrau ereill, yn dyn ddiogel. Eto, gwaith ofer oedd iddo geisio cloi yr Enaid, a fedr fyw a thrafaelio heb y corff: canys diangodd fy ysbryd ar esgyll ffansi allan o'r corpws cloiedig: a chyntaf peth a welwn i, yn fy ymyl [oedd] dwmpath chwareu, a'r fath Gad Gamlan mewn peisiau gleision a chapiau cochion, yn dawnsio yn hoew brysur. Sefais ennyd ar fy nghyfyng gynghor awn i atynt ai peidio; o blegid ofnais, yn fy ffwdan, mai haid oeddynt o Sipsiwn newynllydd; ac na wnaent as lai na'm lladd i i'w swper, a'm llyncu yn ddihalen. Ond o hir graffu, mi a'u gwelwn hwy yn well a thecach eu gwedd na’r giwed felynddu gelwyddog hòno. Felly anturiais nesäu atynt, yn araf deg, fel iâr yn sengu ar farwor, i gael gwybod beth oeddynt; ac o'r diwedd gofynais eu cenad fel hyn o hyd fy nhin: Atolwg, lân gynnulleidfa, yr wyf yn deall mai rhai o bell ydych, a gymmerech chwi Fardd i'ch plith, sy'n chwennych trafaelio?' Ar y gair, dystawodd y trwst, a phawb â'i lygad arnaf, a than wichian, Bardd,' ebr un; Trafaelio,' eb un arall; I'n plith ni,' ebr y trydydd. Erbyn hyn mi adwaenwn rai oedd yn edrych arnaf ffyrnicaf o'r cwbl. Yna dechreuasant sibrwd o glust i glust ryw ddirgel swynion, ac edrych arnaf; a chyda hyny torodd yr hwndrwd, a phawb a'i afael ynof, codasant fi ar eu hysgwyddau, fel codi Marchog Sir; ac yna ymaith â ni, fel y gwynt, tros dai a thiroedd, dinasoedd a theyrnasoedd, a moroedd a mynyddoedd, heb allu dal sylw ar ddim, gan gyflymed yr oeddynt yn hedeg. A pheth sy waeth, dechreuais ammheu fy nghymdeithion wrth eu gwaith yn gwrthuno ac yn cuchio arnaf eisieu canu dychan i'm brenin fy hun.