Gweddi'r Arglwydd

Oddi ar Wikiquote

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
Sancteiddier dy enw.
Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys,
Megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
Fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd.

Amen.