Gerald Durrell

Oddi ar Wikiquote
Nes ein bod yn ystyried fod bywyd anifeiliaid yn haeddu'r ystyriaeth a pharch a roddwn i hen lyfrau a chofebau hanesyddol, bydd y ffoadur anifeilaidd bob amser yn byw bywyd peryglus ar fin darfod, a'i fodolaeth yn dibynnu ar garedigrwydd ychydog o fodau dynol.

Naturiaethwr, awdur a chyflwynydd teledu oedd Gerald ('Gerry') Malcom Durrell (7 Ionawr, 192530 Ionawr, 1995). Mae'n fwyaf adnabyddus am sefydlu'r Durrell Wildlife Conservation Trust ar Ynysoedd y Sianel yn Jersey ac am ysgrifennu nifer o lyfrau yn seiliedig ar gasglu anifeiliaid a theithiau i achub y blaned. Roedd yn frawd i Lawrence Durrell.

Dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

Nid oes byd cyntaf a thrydydd byd. Un byd sydd, er mwyn i ni gyda fyw ac ymhyfrydu ynddo.
Rydym wedi etifeddu gardd anhygoel o brydferth a chymhleth, ond y broblem yw ein bod wedi bod yn arddwyr gwarthus o wael...
A oes rhaid i anifail fod o ddefnydd materol uniongyrchol i'r ddynoliaeth er mwyn bodoli? Yn gyffredinol, wrth ofyn y cwestiwn "beth yw ei ddefnydd?" rydych yn gofyn i'r anifail i gyfiawnhau ei fodolaeth heb i chi orfod cyfiawnhau eich bodolaeth eich hun.


Dolenni allanol[golygu]