Ffilm

Oddi ar Wikiquote

Dyfyniadau sy'n ymwneud â Ffilm a chyfarwyddwyr ffilm.

Gyda ffynhonnell[golygu]

  • Photograffiaeth yw'r gwirionedd. Mae'r sinema yn wirionedd pedair gwaith ar hugain yr eiliad.
    • [addasiad] Cinema is truth at twenty-four frames a second
    • Pwy: Jean-Luc Godard, Le Petit Soldat (ffilm) (cyfarwyddo a sgript, 1960)
  • Rhuban o freuddwydion ydy ffilm. Mae'r camera gymaint yn fwy nag offer recordio; cyfrwng ydyw i drosglwyddo negeseuon i ni o fyd arall na sydd yn rhan o'n byd ni ac sy'n dod a ni i galon y gyfrinach fawr. Dyma ble y dechreua'r hud.
    • Pwy: Orson Welles
  • "Ysgrifennir ffilmiau Americanaidd gan bobl hanner-dysgedig ar gyfer y bobl hanner call." ~ St. John Ervine
    • Ney York Mirror(Mehefin 6, 1963)
  • "Mae sgrîn lydan yn gwneud ffilm wael ddwy waith yn waeth." ~ Samuel Goldwyn
    • Quote (Medi 9, 1956)
  • Hen butain ydy'r sinema, fel syrcas ac amrywiaeth, sy'n gwybod sut i ddarparu sawl math gwahanol o bleser. ~ Federico Fellini,
    • Atlantic Rhagfyr 1965