Diarhebion Cymraeg
Gwedd
Rhestr o ddiarhebion Cymraeg.
A • B • C • Ch • D • Dd • E • F • Ff • G • NG • H • I • L • Ll • M • N • O • P • Ph • R • Rh • S • T • Th • U • W • Y |
A
[golygu]- A arddo diroedd a gaiff ddigonedd
- A bryn gig a bryn esgyrn
- A chwilio fwyaf am fodlondeb a fydd bellaf oddi wrtho
- A ddwg wy a ddwg fwy
- A fo ben, bid bont
- A fo byw yn dduwiol a fydd marw yn ddedwydd
- A fynno barch, bid gadarn
- A fynno Duw, a fydd
- A fynno glod, bid farw
- A fynno iechyd, bid lawen
- A gâr a gerydd
- A geir yn rhad, a gerdd yn rhwydd
- A wnêl dwyll, ef a dwyllir
- A ystyrio, cofied
- Adar o'r unlliw a hed i'r unlle
- Adeiniog pob chwant
- Adfyd a ddwg wybodaeth, a gwybodaeth ddoethineb
- Adwaenir ffôl wrth ei wisg
- Adwaenir dyn wrth ei gyfeillion
- Aeddfed angau i hen
- Afalau'r nos, cnau'r bore, os ceri'th iechyd
- Afal pwdr a ddryga'i gyfeillion
- Afrad pob afraid
- Angau'r euog ydyw'r gwir
- Angel pen ffordd, a diawl pen tân
- Angen a ddysg i hen redeg
- Angor diogel yw gobaith
- Ail fam, modryb dda
- Allwedd tlodi, seguryd
- Aml cogau, aml ydau
- Aml yw haint ym mol hen
- Amlach ffwl na gwr bonheddig
- Amlwg gwaed ar farch gwinau
- Amser yw'r meddyg
- Amynedd yw mam pob doethineb
- Anaml elw heb antur
- Annoeth, llithrig ei dafod
- Anodd iacháu hen glefyd
- Anwylach bywyd na bwyd
- Arfer yw hanner y gwaith
- Arfer yw mam pob meistrolaeth
- Asgre lân, diogel ei pherchen
- Athro da yw amser
- Awel y canolddydd a ddwg law yn ebrwydd
- A wrthodo gyngor rhad a bryn edifeirwch drud
B
[golygu]- Bach hedyn pob mawredd
- Bach pob dyn a dybio ei hun yn fawr
- Bedd a wna bawb yn gydradd
- Benthyg dros amser byr yw popeth geir yn y byd hwn
- Blasus pob peth a gerir
- Blodau cyn Mai, gorau na bai
- Blwyddyn o eira, blwyddyn o lawndra
- Blys geneth yn ei llygaid, blys bachgen yn ei galon
- Bolaid ci a bery dridiau
- Bonheddig pob addfwyn
- Brawd mygi yw tagu
- Brawd yw celwyddog i leidr
- Brenhines pob camp, cyfiawnder
- Brenin pob llyffant ar ei domen ei hun
- Brenin y bwyd yw bara
- Bu weithiau heb haf; ni bu erioed heb wanwyn
- Bychan y tâl cyngor gwraig, ond gwae y gŵr nas cymero
- Bydd olaf i fyned drwy ddŵr dwfn
- Byr ei hun, hir ei hoedl
- Byr yw Chwefror, ond hir ei anghysuron
- Byw i arall yw byw yn iawn
C
[golygu]- Cadarna'r mur po arwa'r garreg
- Cadw dy ardd, ceidw dy ardd dithau
- Cadw dy dafod i oeri dy gawl
- Cadw yn graff a ddysgych
- Cael rhad Duw, cael y cyfan
- Cais ddedwydd yn ei gartref
- Cais ddoeth yn ei dyddyn
- Cais ffrwyn gref i farch gwyllt
- Canmol dy fro a thrig yno
- Canmoled pawb y bont a'i dyco drosodd
- Câr cywir, yn yr ing fe'i gwelir
- Cariad yw mam pob dwyfoldeb
- Cas athro heb amynedd
- Cas chwerthin heb achos
- Cas dyn a ddirmygo Dduw a dyn
- Cas dyn ni chredo neb, na neb yntau
- Cas fydd un enllibiwr gan y llall
- Cas gwr na charo'r wlad a'i maco
- Cas yw'r gwirionedd lle nis carer
- Castell pawb, ei dŷ
- Ceffyl da yw ewyllys
- Ceiniog a enillir ydyw'r geiniog a gynilir
- Ceir llawer cam gwag trwy sefyll yn llonydd
- Celf orau yn y tŷ; gwraig dda
- Celwydd sydd yn marchogaeth ar ddyled
- Cenedl heb iaith, cenedl heb galon
- Cenfigen yw gwraidd pob cynnen
- Cennad hwyr, drwg ei neges
- Clust doeth a lwnc wybodaeth
- Clydwr dafad yw ei chnu
- Clyw a gwêl ac na ddywed ddim
- Craffach un llygad llysfam na dau lygad mam
- Cred air o bob deg a glywi, a thi a gei rywfaint bach o'r gwir
- Crefftwr tafod hawdd ei nabod
- Crochaf yr afon, lleiaf y pysgod
- Cura'r haearn tra fo'n boeth
- Cwsg yw bywyd heb lyfrau
- Cydwybod euog a ofna ei gysgod
- Cydymaith asyn ei glustiau
- Cyfaill blaidd, bugail diog
- Cyfaill da cystal â cheffyl
- Cyfoeth pob crefft
- Cyfoethog pob bodlon
- Cyfyng ac eang yw dewis
- Cymydog da ydyw clawdd
- Cynt y cwrdd dau ddyn na dau fynydd
- Cynt y cwymp dâr na miaren o flaen gwynt
- Cyntaf i'r felin caiff falu
- Cyntaf ei og, cyntaf ei gryman
- Cysur pob gwyryf - cusan
Ch
[golygu]- Chwarae'n troi'n chwerw
- Chwedl a gynydda fel caseg eira
- Chwefror garw; porchell marw
- Chwerthin a wna ynfyd wrth foddi
- Chwynnwch eich gardd eich hun yn gyntaf
D
[golygu]- Da gadael pob da fel y mae
- Da yw dant i atal tafod
- Darllenwch ddynion yn gystal â llyfrau
- Dau ddigon sydd
- Dedwydd pob di-falch
- Deuparth gwaith ei ddechrau
- Deuparth llwyddiant, diwydrwydd
- Diflanna geiriau, ond erys gweithredoedd
- Dim glaw Mai, dim mêl Medi
- Diogi a rhinwedd, dwyrain a gorllewin
- Diwedd pob peth yw cyffes
- Doeth a wrendy; ffôl a lefair
- Doeth pob tawgar
- Doethaf naid, naid dros fai
- Drych i bawb ei gymydog
- Dwla dwl, dwl hen
- Dyfal donc a dyr y garreg.
- Dyled ar bawb ei addewid
- Dyn a chwennych, Duw a ran
- Dyngarwch yw'r dawn gorau
E
[golygu]- Eglwys cybydd, ei gist
- Egni a lwydd
- Eli i bob dolur yw amynedd
- Enfys y bore, aml gawodau
- Enw da yw'r trysor gorau
- Esgeulus pob hen
- Etifeddiaeth werthfawr ydyw gair da
- Euog a wêl ei gysgod rhyngddo â'r haul
- Ewyn dwfr yw addewid mab
F
[golygu]- Fallai yw hanner y ffordd i felly
- Fe fynn y gwir ei le
- Fe gwsg galar, ni chwsg gofal
- Fel yr afon i'r môr yw bywyd dyn
Ff
[golygu]- Ffawd ar ôl ffawd a wna ddyn yn dlawd
- Ffôl pawb ar brydiau
- Ffolog sydd fel llong heb lyw
- Ffon y bywyd yw bara
- Ffordd nesaf at olud, talu dyled
- Ffynnon pob anffawd, diogi
G
[golygu]- Gaeaf gwyn, ysgubor dynn
- Gair drwg a dynn y drwg ato
- Gair mam a bery'n hir
- Gall y gwaethaf ddysgu bod yn orau
- Gan bwyll y mae mynd ymhell
- Gelyn yw i ddyn ei dda
- Gellir yfed yr afon ond ni ellir bwyta'r dorlan
- Genau oer a thraed gwresog a fydd byw yn hir
- Gloddest awr a newyn blwyddyn
- Gnawd i feddw ysgwyd llaw
- Gochel gyfaill a elo'n feistr
- Gorau aml, aml gardod
- Gorau arfer, doethineb
- Gorau caffaeliad, enw da
- Gorau cam, cam gyntaf
- Gorau cannwyll, pwyll i ddyn
- Gorau cof, cof llyfr
- Gorau coll, enw drwg
- Gorau cyfoeth, iechyd
- Gorau Cymro, Cymro oddi cartref
- Gorau chwedl, gwirionedd
- Gorau doethineb, tewi
- Gorau gwraig, gwraig heb dafod
- Gorau haelioni, rhoddi cardod
- Gorau prinder, prinder geiriau
- Gorau trysor, daioni
- Gorau un tlws, gwraig dda
- Gormod o ddim nid yw dda
- Gorwedd yw diwedd pob dyn
- Gwae a fag neidr yn ei fynwes
- Gwae leidr a fo gweledig
- Gwaethaf gelyn, calon ddrwg
- Gweddw crefft heb ei dawn
- Gwell amcan gof na mesur saer
- Gwell bach mewn llaw na mawr gerllaw
- Gwell bachgen call na brenin ffôl
- Gwell benthyg nag eisiau
- Gwell bygwth na tharo
- Gwell câr yn y llys nag aur ar fys
- Gwell ci da na dyn drwg
- Gwell cydwybod na golud
- Gwell cymydog yn agos na brawd ymhell
- Gwell digon na gormod
- Gwell Duw yn gâr na holl lu daear
- Gwell enw da nag aur dilin
- Gwell hela â maneg nag â saeth
- Gwell hanner na dim
- Gwell hwyr na hwyrach
- Gwell mam anghenog na thad goludog
- Gwell migwrn o ddyn na mynydd o wraig
- Gwell pwyll nag aur
- Gwell synnwyr na chyfoeth
- Gwell un awr lawen na dwy drist
- Gwell un hwde na dau addaw
- Gwell yr heddwch gwaethaf na'r rhyfel gorau
- Gwerth dy wybodaeth i brynu synnwyr
- Gwers gyntaf doethineb; adnabod ei hunan
- Gwisg orau merch yw gwylder
- Gwna dda unwaith, gwna dda eilwaith
- Gŵr dieithr yw yfory
- Gŵr heb bwyll, llong heb angor
- Gwybedyn y dom a gwyd uchaf
- Gwybydd fesur dy droed dy hun
- Gwyn y gwêl y fran ei chyw
- Gwynfyd herwr yw hwyrnos
H
[golygu]- Hardd ar ferch bod yn ddistaw
- Harddwch pob hardd, tangnefedd
- Haul gwanwyn, gwaeth na gwenwyn
- Hawdd cymod lle bo cariad
- Hawdd dweud, caled gwneud
- Haws bodloni Duw na diafol
- Heb Dduw, heb ddim
- Heb ei fai, heb ei eni
- Heb wraig, heb ymryson
- Hedyn pob drwg yw diogi
- Hen bechod a wna gywilydd newydd
- Hir ei dafod, byr ei wybod
- Hir pob aros
- Hir yn llanc, hwyr yn ŵr
- Hwy pery clod na hoedl
I
[golygu]- Ionawr cynnes, Mai oer
- I'r pant y rhed y dŵr
Ll
[golygu]- Llaw ddiofal a fydd gwag
- Llon colwyn ar arffed ei feistres
- Llon llygod lle na bo cath
- Llwm yw'r ŷd lle mae'r adwy
- Llysywen mewn dwrn yw arian
M
[golygu]- Mae ffôl yn ymlid ei gysgod
- Mae meistr ar meistr Mostyn.
- Mae pont i groesi pob anhawster
- Mae rhagluniaeth yn fwy na ffawd
- Mae'r diawl yn dda wrth ei blant
- Mam ddiofal a wna ferch ddiog
- Meddu pwyll, meddu'r cyfan
- Meddwl agored, llaw agored
- Meistr pob gwaith yw ymarfer
- Mewn llafur mae elw
- Mwyaf poen yw poen methu
- Mwyaf eu trwst, llestri gweigion
N
[golygu]- Nac adrodd a glywaist rhag ei fod yn gelwyddog
- Nac yf ond i ddori syched
- Na ddeffro'r ci a fo'n cysgu
- Nerth cybydd yn ei ystryw
- Nerth gwenynen, ei hamynedd
- Nes penelin nag arddwrn
- Ni all neb ddwyn ei geraint ar ei gefn
- Ni cheir da o hir gysgu
- Ni cheir gan lwynog ond ei groen
- Ni chyll dedwydd ei swydd
- Ni ddaw doe byth yn ôl
- Ni ddaw henaint ei hunan
- Ni ddychwel cyngor ynfyd
- Ni ellir prynu parch
- Ni saif sach wag
- Ni wyr dyn ddolur y llall
- Nid ar redeg mae aredig
- Nid athro ni ddysg ei hunan
- Nid aur yw popeth melyn
- Nid byd, byd heb wybodaeth
- Nid call, adrodd y cyfan
- Nid da y peth ni phlyco
- Nid deallus ond a ddeall ei hunan
- Nid doeth a ymryson
- Nid eir i annwn ond unwaith
- Nid hawdd bodloni pawb
- Nid hwy oes dyn nag oes dail
- Nid oes ar uffern ond eisiau ei threfnu
- Nid o fradwr y ceir gwladwr
- Nid rhodd rhodd oni bydd o fodd
- Nid rhy hen neb i ddysgu
- Nid tegwch heb wragedd
- Nid yw'r hoff o lyfr yn fyr o gyfaill
- Nid yw rhinwedd byth yn mynd yn hen
O
[golygu]- O ddau ddrwg gorau y lleiaf
- Oedran a ŵyr fwy na dysg
- O gyfoeth y daw gofid
- Oer yw'r cariad a ddiffydd ar un chwa o wynt
- O mynni brysurdeb, cais long, melin a gwraig
- Oriadur yw meddwl dyn, a rhaid ei ddirwyn bod dydd
- Oni byddi gryf, bydd gyfrwys
- Os rhôi barch ti gei barch
P
[golygu]- Pan gyll y call, fe gyll ymhell
- Pawb a fesur arall wrtho'i hunan
- Pawb yn aros yr amser, a'r amser nid erys neb
- Pert pob peth bach ond diawl bach
- Perth hyd fogel, perth ddiogel
- Peswch sych, diwedd pob nych
- Po callaf y dyn anamlaf ei eiriau
- Po fwyaf y bai, lleiaf y cywilydd
- Po fwyaf y cwsg, hwyaf yr einioes
- Pob sorod i'r god ag ef
- Pob un a gâr lle ceir arian
- Prinder gorau, prinder geiriau
- Pritaf o bob prŷn, edifeirwch
- Pryn wael, pryn eilwaith
Rh
[golygu]- Rhaid cael deryn glan i ganu
- Rhaid cariad yw cerydd
- Rhaid cropian cyn cerdded
- Rhaid i'r dderwen wrth gysgod yn ieuanc
- Rhaid wrth lwy hir i fwyta gyda'r diafol
- Rhed cachgi rhag ei gysgod
- Rhwng gwŷr Pentyrch â'i gilydd
- Rhwng y cŵn a'r clawdd
- Rhy hwyr galw ddoe yn ôl
- Rhy uchel a syrth
- Rhydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei llafar
S
[golygu]- Seguryd ni fynn sôn am waith
- Selni rhai yw eu hiechyd
- Sylfaen pob rhinwedd - gwirionedd
T
[golygu]- Taer yw'r gwir am y golau
- Tafl garreg at fur, hi a neidia at dy dalcen
- Tebyg i ddyn fydd ei lwdwn
- Tecaf fro, bro mebyd
- Trech cariad na'r cyfan
- Trech gwlad nag arglwydd
- Trech serch nag arfau dur
- Trechaf treisied, gwannaf gwaedded
- Tri brodyr doethineb: a wrendy, a edrych, a daw
- Trwy dwll bychan y gwelir goleuni
- Trydydd troed i hen ei ffon
- Twyllo arall, twyllo dy hunan
U
[golygu]- Ufudd-dod ydyw llwybr bywyd
- Un celwydd yn dad i gant
- Utgorn angau yw peswch sych
Y
[golygu]- Y ci a gyfarth ni fratha
- Y ddraig goch ddyry cychwyn
- Y doeth ni ddywed a ŵyr
- Yf dy gawl cyn oero
- Y fesen yn dderwen a ddaw
- Y groes waethaf yw bod heb yr un
- Y gwaith a ganmol y gweithiwr
- Y llaw a rydd a gynnull
- Y mae gweithred yn well na gair
- Yng ngenau'r sach y mae cynilo'r blawd
- Ymhob clwyf y mae pergyl
- Ymhob gwlad y megir glew
- Ymhob pen y mae 'piniwn
- Y mwyaf ei fost, lleiaf ei orchest
- Yn yr hwyr y mae nabod gweithiwr
- Yr afal mwyaf yw'r pydraf ei galon
- Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid
- Yr hen a ŵyr, yr ieuanc a dybia
- Yr hyn ni wêl y llygad ni flina'r galon