Diana, Tywysoges Cymru

Oddi ar Wikiquote

Gwraig gyntaf Charles, Tywysog Cymru oedd Diana, Tywysoges Cymru. Ei henw llawn oedd Diana Frances Mountbatten-Windsor, née Spencer (1 Gorffennaf, 196131 Awst, 1997). Yn sgil ei hieuenctid a'i phrydferthwch daeth yn eicon o fenyweidd-dra pan gyhoeddwyd dyweddiad y ddau; fodd bynnag, chwalodd eu priodas ac roedd hi'n casau sylw'r Wasg a ddaeth fel rhan o fod yn aelod o'r teulu brenhinol. Gwahanodd y ddau ym 1992 gan ysgaru ym 1996; bu farw mewn damwain car ym Mharis y flwyddyn ganlynol. Roedd ganddi ddau fab gyda Charles: y Tywysog William a'r Tywysog Harry, a anwyd ym 1982 a 1984.

dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

  • Pan ddechreuais fy mywyd cyhoeddus, deuddeg mlynedd yn ôl, deallais efallai y byddai gan y cyfryngau ddiddordeb yn yr hyn roeddwn yn gwneud. Sylweddolais bryd hynny y byddai eu sylw'n ffocysu ar ein bywydau preifat a chyhoeddus ein dau. Ond nid oeddwn yn sylweddoli pa mor ormesol y byddai'r sylw hynny. Nac ychwaith i ba raddau y byddai'n effeithio ar nyletswyddau cyhoeddus a'm bywyd personol, mewn ffordd, mae wedi bod yn anodd ymdopi ag ef. Ar ddiwedd eleni, pan fyddaf wedi cwblhau fy nyddiadur o weithgareddau swyddogol, byddaf yn lleihau ar y bywyd cyhoeddus rwyf wedi byw hyd yn hyn.
  • Wel, roedd tri ohonom yn y briodas hwn, felly roedd prinder lle.