Dafydd ap Gwilym
Gwedd
Un o feirdd enwocaf Cymru oedd Dafydd ap Gwilym (tua 1315/1320 - tua 1350/1370).
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
[golygu]Dyfyniadau o (gol. Rachel Bromwich) A Selection of Poems (Harmondsworth: Penguin, [1982] 1985).
- Ni thybiais, ddewrdrais ddirdra,
Na bai deg f'wyneb a da,
Yni syniais yn amlwg
Yn y drych; llyna un drwg!- Y Drych
- Plygu rhag llid yr ydwyf –
pla ar holl ferched y plwyf!
am na chefais, drais drawsoed,
onaddun yr un erioed,
na morwyn fwyn ofynaig
na merch fach, na gwrach, na gwraig
py rusiant, py ddireidi,
py fethiant, na fynnant fi?- Merched Llanbadarn
- Nid ydyw Duw mor greulon
Ag y dywaid hen ddynion.
Ni chyll Duw enaid gŵr mwyn,
Er caru gwraig na morwyn.
Tripheth a gerir drwy'r byd:
Gwraig a hinon ac iechyd.
Merch sydd decaf blodeuyn
- "Y Bardd a'r Brawd Llwyd"
- Cyn rheitied i mi brydu
Ag i tithau bregethu,
A chyn iawned ym glera
Ag I tithau gardota.
Pand englynion ac odlau
Yw'r hymnau a'r segwensiau?
A chywyddau i Dduw lwyd
Yw sallwyr Dafydd Broffwyd.- "Y Bardd a'r Brawd Llwyd"
- Plygain y darllain deirllith,
Plu yw ei gasul i'n plith.
Pell y clywir uwch tiroedd
Ei lef o lwyn a'i loyw floedd.
Proffwyd rhiw, praff awdur hoed,
Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.- "Y Ceiliog Bronfraith"
- Ni thybiais, ddewwrdrais ddirdra,
Na bai deg f'wyneb a da,
Oni theimlais, waith amlwg,
Y drych.- "Y Drych"
- Oriau hydr yr ehedydd
A dry fry o'i dŷ bob dydd,
Borewr byd, berw aur bill,
Barth â'r wybr, borthor Ebrill.- "Yr Ehedydd"
- Plygu rhag llid yr ydwyf,
Pla ar holl ferched y plwyf!
Am na chefais, drais drawsoed,
Onaddun' yr un erioed
Na morwyn fwyn ofynaig,
Na merch fach, na gwrach, na gwraig.- "Merched Llanbadarn"
- Ni bu amser na charwn…
Yn y dydd ai un ai dwy.- "Merched Llanbadarn"
- Harddwas teg a'm anrhegai,
Hylaw ŵr mawr hael yw'r Mai.
Anfones ym iawn fwnai,
Glas defyll glân mwyngyll Mai.
Ffloringod brig ni'm digiai,
Fflŵr-dy-lis gyfoeth mis Mai.- "Mis Mai"
- Hawddamor, glwysgor glasgoed,
Fis Mai haf, canys mau hoed.
Cadarn farchog serchog sâl,
Cadwynwyrdd feistr coed anial;
Cyfaill cariad ac adar,
Cof y serchogion a'u câr;
Cennad nawugain cynnadl,
Caredig urddedig ddadl.- "Mis Mai a Mis Ionawr"
- Digrif fu, fun, un ennyd
Dwyn dan un bedwlwyn ein byd.
Cydlwynach , difyrrach fu,
Coed olochwyd, cydlechu,
Cydfyhwman marian môr,
Cydaros mewn coed oror,
Cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
Cydblethu gweddeiddblu gwŷdd.
Cydadrodd serch â'r ferch fain,
Cydedrych caeau didrain.- "Y Serch Lledrad"
- Yr wylan deg ar lanw dioer
Unlliw ag eiry neu wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fel haul, dyrnfol, heli.- "Yr Wylan"
- Yr wybrwynt helynt hylaw
Agwrdd drwst a gerdda draw,
Gŵr eres wyd garw ei sain,
Drud byd heb droed heb adain.- "Y Gwynt"
- Nythod ddwyn, cyd nithud ddail,
Ni'th dditia neb, ni'th etail,
Na llu rhugl, na llaw rhaglaw,
Na llafn glas na llif na glaw.- "Y Gwynt"