Cyfunrywioldeb
Gwedd
Dyfyniadau am gyfunrywioldeb
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
[golygu]Pobl go iawn
[golygu]- Pe bai pob lesbiad yn sydyn yn troi'n borffor heddiw, byddai'n cymdeithas yn synnu at y nifer o bobl porffor mewn mannau uchel.
- Sidney Abbott & Barbara Love, Sappho was a right-on woman, 1972
- Hoff gariadon gwrywaidd y Brenin Iago oedd Iarll Gwlad yr Haf a Dug Buckingham.
- Ben Edward Akerly, The X-rated Bible
- [I'w ymosodwr] Gwell i ti fod yn ofalus. Y tro diwethaf ro'n i mor agos a hyn at ddyn, roedden ni'n dawnsio'n araf.
- Antony, yn The Other Side of the Closet
- Ymysg yr holl gythrwfl [am bobl hoyw yn y lluoedd arfog], y sylwad mwyaf addas a glywais oedd ar raglen newyddion unarddeg o'r gloch pan gyfwelwyd a gwraig ar y stryd. Dywedodd hi, "Dw i ddim yn deall rhywbeth. Mae'r dynion hyn fod teithio ledled y byd, byw mewn ffosydd, cysgu mewn mwd, a cherdded trwy ardaloedd yn llawn bomiau. Ond 'dyn nhw'n methu ymdopi a rhyw ddyn yn edrych arnyn nhw?"
- Sara Cytron a Harriet Malinowitz, Take My Domestic Partner... Please!
- Yn sicr, nid yw cyfunrywioldeb yn fantais mewn bywyd, ond nid yw'n rhywbeth i gywilyddio amdano, nac yn wendid, na'n sarhad, ni ellir ei gategoreiddio fel salwch.
- Sigmund Freud, letter to an American mother's plea to cure her son's homosexuality, 1935
- Beth wyt ti'n feddwl, dwyt ti 'ddim yn credu mewn cyfunrywioldeb?' 'Dyw e ddim fel Cwningen y Pasg; nid yw dy gred yn angenrheidiol.
- Mae oes o gerddoriaeth disco yn bris uchel i'w dalu am rywioldeb dyn.
- Os ydych chi'n mynd i fod yn hoyw, 'run man i chi fod yn ffabiwlys. Eich hawl geni ydyw.
- Frank deCaro
- Maen nhw bob amser yn cyfeirio at Lefiticus. "Ni orwedd gyda dyn fel gyda menyw." Wel, dw i ddim.
- Maggie Cassella