Coco Chanel

Oddi ar Wikiquote
Coco Chanel (1928)

Cynllunydd ffasiwn arloesol ac athronydd modernaidd Ffrengig oedd Gabrielle Bonheur "Coco" Chanel (1883-08-191971-01-10). O bosib, hi oedd y ffigur mwyaf dylanwadol yn hanes ffasiwn yr w:20fed ganrif.

Dyfyniadau heb ffynhonnell[golygu]

  • Os nad yw ffasiwn yn cyrraedd y stryd, nid ffasiwn mohono.
  • Dylai merch fod yn ddau beth: safonol a ffabiwlys.
  • Mae gan fenyw yr oed mae'n haeddu.
  • Mae gwraig agosaf at fod yn noeth pan mae wedi'i gwisgo'n dda.
  • Cyn belled eich bod yn gwybod fod dynion fel plant, rydych yn gwybod popeth.
  • Peidiwch gwastraffu amser yn taro wal, gan obeithio ei newid i fod yn ddrws.
  • Nod ffasiwn yw ei fod yn newid i fod yn anffasiynol.
  • Newidia ffasiwn, parha steil.
  • Efallai mai euogrwydd ydy cyfaill creulon marwolaeth.
  • Dw i'n caru fy hun.
  • Fi newidiodd, nid ffasiwn. Fi oedd yr un a oedd ym myd ffasiwn.
  • Ym myd ffasiwn, rydych yn gwybod eich bod wedi llwyddo pan fo pobl yn cael eu hypsetio.
  • Look for the woman in the dress. If there is no woman, there is no dress.
  • Rhaid i foethusrwydd fod yn gyfforddus, neu nid yw'n foethus.
  • Cred rhai mai moethusrwydd ydy gwrthwyneb tlodi. Nid yw hynny'n wir. Gwrthwyneb fwlgariaeth ydyw.
  • I gyflawni pethau mawr, rhaid breuddwydio i ddechrau.
  • Mae ieuenctid yn rhyw beth newydd iawn; ugain mlynedd yn ol, nid oedd neb yn son amdano.