Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg
Mae Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg yn llyfr gan O M Edwards. Cyhoeddwyd y llyfr ym 1906, gan Gwmni Y Cyhoeddwyr Cymraeg (Cyf) yn Wasg Swyddfa Cymru, Caernarfon. Mae'r gyfrol wedi ei selio'n fras ar hanes O. M. Edwards o'i fabandod hyd ddiwedd ei gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r llyfr yn cynnwys adgofion Edwards o'i brofiad fel bachgen ysgol o fod dan ddisgyblaeth y Welsh Not
Dyfyniad
[golygu]Yr oedd yr athraw wedi dweyd wrthyf yn ddistaw am beidio siarad gair o Gymraeg ; ond yr oedd y bechgyn drwg hynny'n gwneyd popeth fedrent i wneyd i mi waeddi, ac o'r diwedd llwyddasant. Collais fy nhymer, a dechreuais ddweyd fy meddwl wrth y chwilgi bradwrus ddyfeisiai sut i'm poenydio. Gydag i mi ddweyd fy Nghymraeg cryf, chwarddodd pawb, a rhoddwyd llinyn am fy ngwddf, a thocyn pren trwm wrtho. Ni wyddwn ar wyneb y ddaear beth oedd, yr oeddwn wedi gweled tocyn cyffelyb am wddf ci i'w rwystro i redeg ar ol defaid. Tybed ai i'm rhwystro adre y rhowd y tocyn hwnnw am fy ngwddf i? O'r diwedd daeth canol dydd, awr y gollwng. Daeth yr ysgolfeistres yno a gwialen yn ei llaw. Gofynnodd ryw gwestiwn, a chyfeiriodd pob plentyn gwasaidd ei fys ataf fi. Daeth rhyw beth tebyg i wên dros ei gwyneb pan welodd y tocyn am fy ngwddf i. Dywedodd ryw rigwm hir wrthyf na fedrwn ddeall gair o hono, danghosodd y wialen imi, ond ni chyffyrddodd â mi. Tynnwyd y tocyn i ffwrdd, a deallais wedi hynny mai am siarad Cymraeg y rhoddid ef am wddf.
Bu'r tocyn hwnnw am fy ngwddf gannoedd o weithiau wedi hynny. Dyma fel y gwneid, — 'pan glywid plentyn yn dweyd gair o Gymraeg, yr oeddis i ddweyd wrth yr athraw, yna rhoddid y tocyn am wddf y siaradwr; ac yr oedd i fod am ei wddf hyd nes y clywai'r hwn a'i gwisgai rywun arall yn siarad Cymraeg, pryd y symudid ef at hwnnw druan. Ar ddiwedd yr ysgol yr oedd yr hwn fyddai yn ei wisgo i gael gwialenodiad ar draws ei law. Bob dydd byddai'r tocyn, fel pe yn ei bwysau ei hun, o bob cwr o'r ysgol, yn dod am fy ngwddf i. Y mae hyn yn gysur i mi hyd heddyw, — ni cheisiais erioed gael llonydd gan y tocyn trwy ei drosglwyddo i un arall. Ni wyddwn ddim am egwyddor y peth, ond yr oedd fy natur yn gwrthryfela yn erbyn y dull melldigedig hwn o ddinistrio sylfeini cymeriad plentyn. Dysgu plentyn i wylio plentyn llai'n siarad iaith ei fam, er mwyn trosglwyddo'r gosb arno ef! Na, nid aeth y tocyn erioed oddi am fy ngwddf, dioddefais wialenodiad bob dydd fel y doi diwedd yr ysgol.