Bette Davis

Oddi ar Wikiquote
Bette Davis yn The Petrified Forest (1936)

Actores ffilm, teledu a llwyfan Americanaidd oedd Ruth Elizabeth "Bette" Davis (5 Ebrill, 1908 – 6 Hydref, 1989). Enillodd Wobr yr Academi ar ddwy achlysur. Roedd yn enwog am chwarae cymeriadau amhoblogaidd ac roedd yn uchel ei pharch am ei pherfformiadau mewn ystod eang o ffilmiau. Ym 1999, gosodwyd Davis yn ail, ar ol Katharine Hepburn, ar restr y Gymdeithas Ffilm Americanaidd o'r 100 o Ser Benywaidd Gorau erioed.

Dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

  • Dw i'n dwli ar fy mhroffesiwn. Ni fusawn yn stopio. Ymlacio? Dw i'n ymlacio tra'n gweithio. Fy mywyd ydyw.


  • Boed i bob un o'm wyron wybod, yn nyddiau eu hieuenctid, beth yw uchelgais ei fywyd -- a boed iddo fod yn llwyddiannus wrth ddilyn ei nod.
    • Cathy Collison (Tachwedd 16, 1983) "Savitch Remembered Crim In Will", Detroit Free Press, tt 14D.


Dyfyniadau wedi'u priodoli iddi[golygu]

  • Pan fo dyn yn rhoi ei farn, dyn ydyw. Pan fo menyw yn rhoi ei barn, gast ydyw.
    • William Martin, The Best Liberal Quotes Ever: Why the Left is Right, Sourcebooks, Inc., 2004, ISBN 1402203098, p. 204


  • Ceisiwch wneud yr amhosib er mwyn gwella'ch gwaith.
    • Wendy Toliver, The Little Giant Encyclopedia of Inspirational Quotes, Sterling Publishing Company, Inc., 2005, ISBN 140271159X, p. 123.


  • Ni fyddwch fyth yn hapusach na'ch disgwyliadau. I newid eich hapusrwydd, newidiwch eich disgwyliadau.
    • Gerhard Gschwandtner, Great Thoughts to Sell By: Quotes to Motivate You to Success, McGraw-Hill Professional, 2007, ISBN 0071475990, p. 89.