Saunders Lewis: Gwahaniaeth rhwng adolygiadau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
*Yn ail, o ganlyniad ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol. Bodlonwyd drwy Gymru gyfan i'w darostyngiad llwyr."
* Trown at weddau politicaidd y deffroad Cymreig yn y ganrif ddiwethaf ac fe welwn yn union yr un diystyru ar y Gymraeg. Er bod yr iaith yn destun gwawd ac ymosod barnwyr ac esgobion a gweision sifil, ni chododd neb i fynnu ei hawliau iddi yn y Senedd nac ar lwyfan. Bu gwrthgymreigrwydd esgobion a phersoniaid yr Eglwys Wladol a'u gelyniaeth i'r Gymraeg yn rhan fawr o'r ddadl o blaid Datgysylltiad, yn rhan hefyd o ddadl y Degwm.
* Trown felly at y sefyllfa bresennol, argyfwng yr iaith yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Mae hi'n sefyllfa wan. Bu amser, yng nghyfnod deffroad y werin rhwng 1860 a 1890, y buasai'n ymarferol sefydlu'r Gymraeg yn iaith addysg a'r Brifysgol, yn iaith y cynghorau sir newydd, yn iaith diwydiant. Ni ddaeth y cyfryw beth i feddwl y Cymry. Mi gredais i nad oedd y peth yn amhosibl, gydag amser ac o ddilyn polisi cyson am genhedlaeth neu ddwy, rhwng y ddau rhyfel byd. Heddiw nid yw hynny'n bosibl. Bu cyfnewidiadau cymdeithasol aruthrol yng Nghymru yn y chwarter canrif diwethaf. Iaith ar encil yw'r Gymraeg yng Nghymru mwaych, iaith lleiafrif a lleiafrif sydd eto'n lleihau.
* Gellir tynnu un wers o bwys oddi wrth agwedd y Llywodraeth. Pe hawliai Cymru o ddifri gael y Gymraeg yn iaith swyddogol gydradd â'r Saesneg nid o du'r Llywodraeth nac oddi wrth y Gwasanaeth Sifil y deuai'r gwrthwynebiad. Yn naturiol fe fyddai peth rhegi ysgafn gan glercod yn chwilio am eiriadur a chan ferched teipio yn dysgu sbelio, ond y mae'r gwasanaeth sifil wedi hen ddysgu derbyn chwyldroadau yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhan o'r drefn feunyddiol. O Gymru, oddi wrth yr awdurdodau lleol ac oddi wrth eu swyddogion, y deuai'r gwrthwynebiad, yn gras, yn ddialgar, yn chwyrn.
* Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'.
* Mae'r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth. Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.
|