Wiciquote:Y Caffi

Oddi ar Wikiquote
(Ailgyfeiriad oddi wrth Wikiquote:Y Caffi)
Neidio i: llywio, chwilio

Yes check.svg Cwblhawyd

Croeso, newydd-ddyfodiaid a'r rheiny ohonoch sydd wedi bod yma ers meityn! Os oes gennych gwestiynau am Wiciquote a sut mae'n gweithio, cliciwch ar y ddolen "Crëwch bwnc newydd" isod, ac yna gallwch osod ei ymholiad ar waelod y rhestr, a bydd rhywun yn ceisio'i ateb i chi. (Os oes gennych gwestiwn ynglyn â phwy ddywedodd beth, ewch i'r ddesg gyfeirio yn lle.)

Cyn gofyn cwestiwn, edrychwch i weld os yw wedi cael ei ateb eisoes yn yr adran Wiciquote:Cwestiynau cyffredin neu dudalennau eraill sydd wedi'u cysylltu a Wiciquote:Cymorth. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ar gael o Wiciquote:Porth y gymuned a Wiciquote:Cyhoeddiadau.

Cyn ateb cwestiwn newydd-ddyfodiwr mewn modd swta, pam na ail-ddarllenwch chi'r adran Peidiwch a chnoi'r newydd-ddyfodwyr!

Ni fydd cwestiynau ac atebion yn parhau ar y dudalen hon am gyfnod amhenodol (neu fyddai'r dudalen yn rhy hir a chymhleth). Ar ôl cyfnod o amser lle nad oes unrhyw weithgarwch pellach, bydd yr wybodaeth yn cael ei symud i adrannau perthnasol eraill o Wiciquote, (megis y dudalen Cwestiynau Cyffredin) neu cânt eu rhoi yn archif y Caffi os ydynt o ddiddordeb cyffredinol neu fe'u dileïr. Ystyriwch rhoi dyddiad a theitl i'ch trafodaeth i'r perwyl hwn. Gallwch lofnodi'ch neges drwy osod pedair tildes (sef y symbol hwn: ~ ) ar ddiwedd eich neges.


Enwebiad i fod yn weinyddwr[golygu]

Hoffwn wneud cais i fod yn weinyddwr ar y Wiciquote Cymraeg. Ar hyn o bryd, nid oes gan y prosiect unrhyw weinyddwyr a theimlaf ei fod yn angenrheidiol fod rhywun yn ymgymryd a'r gwaith. Rwyf eisoes yn weinyddwr ar y Wicipedia Cymraeg ac wedi cyfrannu'n helaeth i'r wefan dros y misoedd diwethaf. Diolch. Rhodri77 16:40, 7 Chwefror 2010 (UTC)

Rwy'n cefnogi'r cais. Oes angen dwud hynny yn rhywle arall? Rhion 17:50, 12 Chwefror 2010 (UTC)
Diolch Rhion. Dw i ddim yn credu fod angen dweud unrhyw le arall. Dw i wedi gwneud y cais gwreiddiol (gweler ar Meta ond dw mae nhw'n aros i weld ymateb wrth y gymuned Wiciquote. Diolch am y gefnogaeth ta beth! Rhodri77 15:20, 14 Chwefror 2010 (UTC)
Symbol support vote.svg Cefnogi. Tigershrike 19:57, 14 Chwefror 2010 (UTC)