Rhyfel

Oddi ar Wikiquote
Rhaid i'r ddynoliaeth rhoi terfyn ar ryfel neu fydd yn rhoi terfyn ar y ddynoliaeth - John F. Kennedy

Gwrthdaro gan ddefnyddio arfau a grym milwrol gan wledydd neu grwpiau mawrion ydy rhyfel. Gan amlaf mae gan y gwledydd sy'n rhyfela diriogaeth maent yn gallu ennill neu golli; ac mae gan y naill wlad neu'r llall prif berson neu sefydliad sy'n gallu ildio, neu syrthio, gan ddiweddu'r rhyfel. Fel arfer, mae rhyfeloedd yn ymgyrchoedd milwrol rhwng dwy ochr cyferbyniol ynghlyn a sofraniaeth, tir, adnoddau naturiol, crefydd neu ideoleg.

Dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

  • Ni fydd rhyfel bydd yn ildio ond i egwyddorion cyffredinol cyfiawnder a chariad, ac nid oes gan y rhain wreiddiau cadarnach nag yng nghrefydd Iesu Grist.
    • William Ellery Channing, yn Dictionary of Burning Words of Brilliant Writers gan Josiah Hotchkiss Gilbert (1895), td. 614.
  • Parhad o wleidyddiaeth ydy rhyfel ond gan ddefnyddio dulliau eraill.
  • Mae rhyfel yn rhywbeth abswrd, dibwrpas, na ellir ei gyfiawnhau.
    • Louis de Cazenave, milwr Ffrengig o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn [1] Adroddiad BBC News (2005)]
  • Mae'n well i gega na rhyfela.

Awduron hynafol[golygu]

  • Dim ond y meirw sydd wedi gweld diwedd rhyfel. (Plato)
  • Syrffeda ddynion ar gwsg, cariad a chanu yn gynt na rhyfel. (Homer)
  • Mewn rhyfel, y gwirionedd yw'r dioddefwr cyntaf. (Aeschylus)
  • Dymunol yw rhyfel i'r rhai sydd heb ei brofi. (Pindar)
  • Taflu bywydau ymaith ydy arwain pobl dibrofiad i ryfel. (Confucius)