Owain Owain
Oddi ar Wikiquote
Llenor, ysgolhaig ac ymgyrchydd gwleidyddol oedd Owain Owain (ganed 11 Rhagfyr, 1929 - 4 Rhagfyr, 1993).
Cynnwys |
Dyfyniadau[golygu]
- Cwrteisi cynhenid y Cymro yw gelyn pennaf yr iaith Gymraeg.[1]
- Pan fo argyhoeddiadau lleiafrif yn gwrthdaro yn erbyn rhagfarnau mwyafrif, ni ellir gweithredu'n gyfiawn bob amser heb weithredu'n anghyfreithlon hefyd. [2]
- Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.[3]
Dyfyniadau amdano[golygu]
- Ym Mangor, gan Owen Owen (Owain wedyn, fel yr hysbysodd, wedi Calan 1965) a'i gefnogwyr yr oedd yr unig gangen go-iawn. Wedi magu profiad yn herio'r coleg gwrthnysig, aeth ati fel mudiad ynddo'i hun.[4]