Hen Benillion (Cymru Fu)

Oddi ar Wikiquote

Penillion syml yn mynegi teimladau cyffredin megis serch, marwolaeth, natur neu ddoethineb yw'r hen benillion. Maent yn gerddi traddodiadol, dienw ond ceir yn eu plith lawer a luniwyd gan ferched. Ar fesur y triban, yr awdl-gywydd a’r mesur tri thrawiad. Y patrwm mwyaf cyffredin, fodd bynnag, yw’r pennill sy’n cynnwys pedair llinell, ac yn odli aabb.

Mae'n anodd dyddio'r hen benillion ond dechreuwyd eu cofnodi yn y llawysgrifau o'r 16G ymlaen. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dyddio i'r Cyfnod Modern Cynnar ac eraill yn amlwg yn llawer iawn hŷn.

Daw'r detholiad yma o bennod Cant o Hen Bennillion Cymreig yn llyfr Cymru Fu gan Isaac Foulkes (Llyfrbryf).


Tebyg yw dy lais yn canu
I gog mewn craig yn dechrau crygu;
Dechrau cân heb ddiwedd arni;
Harddach fyddai iti dewi.

—————————————

Hawdd yw dwedyd, " Dacw’r Wyddfa;"
Nid eir drosti ond yn ara';
Hawdd i'r iach, a fo'n di ddolur,
Beri i'r claf gymryd cysur.

—————————————

Trwm y plwm, a thrwm y ceryg,
Trwm yw calon pob dyn unig;
Trymaf peth tan haul a lleuad,
Canu'n iach lle byddo cariad.

—————————————

Da gan adar mân y coedydd;
Da gan ŵyn feillionog ddolydd:
Da gan i brydyddu'r hafddydd
Yn y llwyn, a bod yn llonydd.

—————————————

Dacw'r llong a'r hwyliau gwynion,
Ar y môr yn mynd i'r Werddon:
Duw o'r nef, rho lwyddiant iddi,
Er mwyn y Cymro glân sydd ynddi!

—————————————

Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gant fynd i'r fan a fynnon—
Weithiau i'r môr, a weithiau i'r mynydd,
A dod adref yn ddigerydd.

—————————————

Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd, cân, ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf tirion
Sy'n y nef ym mhlith angylion.

—————————————

Gwedwch, fawrion o wybodaeth,
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth;
A pha ddefnydd a roed ynddo,
Nas darfyddai wrth ei wisgo?

—————————————

Robin goch sydd ar yr hiniog,
A'i ddwy aden yn anwydog;
A ddyweda mor ysmala,
"Mae hi'n oer, fe ddaw yn eira."

—————————————

Yn y môr y byddo'r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionydd:
Na chawn unwaith olwg arni,
Cyn i'm calon dirion dori.

—————————————

Llawn yw'r môr o heli a chregyn;
Llawn yw'r wy o wyn a melyn;
Llawn yw'r coed o ddail a blodau;
Llawn o gariad merch wyf finnau.

—————————————

Yn sir Fôn mae sïo'r tannau;
Yn Nyffryn Clwyd mae coed afalau;
Yn sir y Fflint mae tân i dwymo,
A lodes benwen i'w chofleidio.