Wikiquote:Wiciquote

Oddi ar Wikiquote
(Ailgyfeiriad o Wiciquote:Wiciquote)

Gall ddyfyniadau fod yn ddibwys ac yn aruchel ar yr un pryd. Beth bynnag go safbwynt athronyddol y bobl sy'n eu dweud, ac o ba wlad, cenedl neu grefydd maent yn dod; os ydynt yn ddifrifol neu'n ysgafn; os yw'r awdur yn enwog neu'n ddrwg-enwog, dadleuol neu'n ddathliedig: yn y cyd-destun cywir mae dyfyniadau'n emau disglair o ddoethineb mewn cnewllyn o eiriau dethol.

Gallant ein hysbrydoli i ddeall bywydau'r bobl a oedd wedi eu dweud, i ystyried cwrs ein bywydau ein hunain, i chwerthin neu'n syml i edmygu eu meistrolaeth o iaith. Sut bynnag y byddwn yn eu defnyddio, byddant yn bodoli am byth fel rhyw fath o grynodeb o sylwadau am ein cymdeithas, gwybodaeth gyffredin a drosglwyddir o'r naill genhedlaeth i'r nesaf.

Beth yw Wiciquote?[golygu]

Anela Wiciquote at fod yn gasgliad cywir a chyflawn o ddyfyniadau nodedig.

  • Cywir: Anela Wiciquote at gywirdeb. Ymha le bynnag posib, ceisiwn nodi ein ffynonnellau: yn ddelfrydol gyda'r rheiny lle'r ymddengys y dyfyniad yn gyntaf, neu fel arall priodoldeb nodedig y dyfyniadau. Ceisiwn ddod o hyd i ddyfyniadau sydd wedi'u priodoli'n anghywir, gan eu labeli'n glir ac ymchwilio i sut y cawsant eu cam-briodoli.
  • Cyflawn: anela Wiciquote at ddyfyniadau gan nifer o bobl wahanol, gweithiau llenyddol, ffilmiau, cofebau, beddargraffiadau ac yn y blaen.
  • Nodedig: Rydym yn cyfygu'n hunain i ddyfyniadau sy'n nodedig. Gall ddyfyniad fod yn nodedig naill ai am fod y dyfyniad ei hun wedi dod yn enwog, neu am fod y person a ddywedodd y dyfyniad yn enwog neu ei fod wedi ymddangos mewn rhyw waith nodedig.
  • Dyfyniadau: Casgliad o ddyfyniadau ydy Wiciquote. Felly, er y dylid rhoi disgrifiad byr am y pwnc ar ben yr erthygl, y prif nod yw i gynnwys dyfyniadau.