Wikiquote:Y Ddesg Gyfeirio

Oddi ar Wikiquote
(Ailgyfeiriad o Wikiquote:DG)
 Stop! Sylwer: Nid tudalen gymorth yw hon ar gyfer problemau gyda Wiciquote.

Gweler y Y Caffi am gwestiynau sy'n ymwneud yn benodol â Wikiquote. Cyn i chi bostio cwestiwn yn y fan hon, efallai yr hoffech weld a yw un o'r tudalennau canlynol yn ateb eich cwestiwn:

Gweithia'r Desg Gyferio Wikiquote yn yr un modd a desg gyfeirio mewn llyfrgell. A oes gennych gwestiwn penodol am ddyfyniadau yr hoffech i un o wirfoddolwyr Wiciquote ei ateb? Gofynnwch eich cwestiwn isod!

Sut i ofyn cwestiwn

  • Rhowch deitl ystyrlon i'ch cwestiwn os gwelwch yn dda oherwydd golyga hyn y byddwch yn fwy tebygol o gael ateb ystyrlon.
  • Bydd yn benodol a chlir yn eich cwestiwn, gan ddisgrifio'n benodol yr hyn hoffech gael wedi ei ateb.
  • Arwyddwch eich cwestiwn os gwelwch yn dda, drwy deipio --~~~~ (sef dwy hyphens a phedair tildes) ar y diwedd. Bydd hyn yn stampio'r dyddiad, yr amser a'r enw defnyddiwr ar eich neges. (Hefyd, gallwch ei arwyddo gyda --anhysbys.)
  • Peidiwch a chynnwys eich cyfeiriad ebost os gwelwch yn dda, am nad yw negeseuon yn cael eu hateb ar ebost gan amlaf. Hefyd byddwch yn ymwybodol fod cynnwys Wiciquote yn cael ei gopïo'n helaeth i wefannau eraill, ac felly gallai cynnwys eich cyfeiriad ebost yn gyhoeddus yn y fan hwn beri i'ch cyfeiriad ebost fod yn hynod o gyhoedd ledled y wê.
  • Dewch yn ôl i weld y diweddariadau. Weithiau gall ateb cyflawn ddatblygu dros gyfnod o ddyddiau.
  • I barhau â chwestiwn, golygwch adran eich cwestiwn (drwy glicio ar y ddolen [golygu] ar yr ochr dde i'r prif bennawd). Peidiwch a dechrau adrannau niferus ar gyfer yr un adran os gwelwch yn dda.
  • Cofiwch fod darllenwyr o bob oed yn ymweld â'r dudalen hon.
  • Osgowch ddefnyddio prif lythrennau'n unig os gwelwch yn dda; nid yn unig mae'n gwneud y cwestiwn yn anoddach i'w ddarllen ond mae hefyd yn cael ei ystyried yn anghwrtais neu'n fodd o weiddi.
  • Bodau dynol fydd yn ateb y cwestiynau, nid cyfrifiadur. Nid peiriant chwilio mo'r dudalen hon.

Sut i ateb cwestiwn

  • Byddwch yn drwyadl os gwelwch yn dda, gan ddarparu cymaint o wybodaeth a phosib.
  • Byddwch yn gryno, ac nid yn or-eiriog. Ysgrifennwch mewn ffordd glir a dealladwy. Sicrhewch fod eich ateb yn berthnasol i'r cwestiwn gwreiddiol a ofynnwyd.
  • Crëwch ddolenni i erthyglau ar Wiciquote neu Wicipedia a fydd o bosib yn cynnwys mwy o wybodaeth sy'n berthnasol i'r cwestiwn.
  • Nid bocs sebon mo'r Ddesg Gyfeirio. Os ydych yn dymuno dadlau rhyw bwnc o safbwynt penodol, gwnewch hynny ar y dudalen sgwrs berthnasol.