Wikiquote:Cwrteisi

Oddi ar Wikiquote
(Ailgyfeiriad o Wikiquote:CWRTAIS)
Mae hwn yn bolisi Wikiquote arfaethedig.
Mae wedi cael ei ysgrifennu gan un olygyddion / grŵp ac yn yr arfaeth trafodaeth mabwysiadu gan y gymuned.
Teimlwch yn rhydd i wneud newidiadau er ailysgrifennu dylid trafod os yn bosibl.
Crynodeb o'r dudalen hon:
Mae bod yn anghwrtais, ansensitif neu ddibwys yn digio pobl ac yn effeithio ar pa mor dda mae Wiciquote yn gweithio. Ceisiwch annog pobl eraill i beidio bod yn anghwrtais, a byddwch yn ofalus nad ydych yn pechu pobl yn anfwriadol. Ceir gwasanaeth cyfryngu os oes angen.


Polisïau a chanllawiau Wiciquote
Safonau erthyglau
Gweithio gydag eraill

Cwrteisi yw'r rheol ar gyfer ymddygiad tra'n golygu, gwneud sylwadau a thrafod ar dudalennau sgwrs ar holl brosiectau Wicigyfryngau. Tra'r diffinir anghwrteisi yn gyffredinol fel ymddygiad sydd wedi ei dargedu'n bersonol sy'n achosi awyrgylch o wrthdaro a straen, dywed ein rheol o gwrteisi fod yn rhaid i bobl ymddwyn yn gwrtais at ei gilydd.

Mae ein cymuned Wiciquote wedi datblygu hierarchaeth anffurfiol o egwyddorion craidd — a'r pwysicaf ohonynt yw fod yn rhaid i erthyglau gael eu hysgrifennu mewn arddull ddiduedd. Ar ôl hynny, gofynnwn i ddefnyddwyr ddangos parch at ei gilydd. Hyd yn oed os mai rheol anffurfiol ydy "cwrteisi", dyna'r unig egwyddor y gallwn gyflwyno i ymddygiad arlein, a dyma'r unig ffordd resymol o wahaniaethu ymddygiad derbyniol o ymddygiad annerbyniol. Ni allwn ddisgwyl i bob i garu, anrhydeddu, ufuddhau, neu barchu ei gilydd hyd yn oed. Ond mae gennym bob hawl i fynnu cwrteisi.

Y broblem[golygu]

Yn gyffredinol, nid yw Wikiquote yn talu parchu at gyfraniadau am fod modd i bawb olygu. O ganlyniad pan fo golygiad yn cael ei ganmol neu ei feirniadu, mae pobl yn gwerthfawrogi'n fawr neu'n digio pan fo hyn yn digwydd. Anghofia nifer o bobl ei fod yn hawdd cymysgu beirniadu golygiad gyda beirniau'r peth a'i gwnaeth — ac felly maent yn rhy llym o ran y person a wna'r sylwad ac yn rhy sensitif o ran y person a dderbynia'r sylwad. Yn fuan iawn, mae'r hyn a ddechreuodd fel un sylwad anghwrtais yn datblygu i fod yn gyfres o sylwadau'n cael eu cyfnewid, nes bod pobl yn colli diddordeb mewn golygu erthyglau ac yn hytrach yn canolbwyntio ar gael "buddugoliaeth" yn erbyn eu "gelyn". Nid dyna yw nod ac amcanion Wikiquote.

Enghreifftiau[golygu]

Enghreifftiau pitw sy'n cyfrannu at awyrgylch annifyr:

  • Anghwrteisi
  • Tôn feirniadol mewn crynodebau golygu (e.e. "trwsio sillafu esgeulus", "dileu sbwriel gor-eiriog")
  • Bychanu cyfranwyr oherwydd eu sgiliau ieithyddol neu eu dewis o eiriau
  • Cyhuddiadau annoeth o ymddygiad anaddas o rhyw fath
  • Dechrau sylwad gyda "Dw i ddim eisiau i ti gymryd hyn yn bersonol, ond..."
  • Galw rhywun yn gelwyddgi, neu ei gyhuddo e/hi o enllib (hyd yn oed os yw'n wir, tuedda o waethygu yn hytrach na datrys anghydfodau)

Mae enghreifftiau mwy difrifol yn cynnwys:

  • Pryfocio
  • Ymosodiadau personol
    • Sarhad hiliol, ethnig, a chrefyddol
    • Rhegi at gyfrannwr arall
  • Celwyddau
  • Difrodi tudalennau defnyddiwr
  • Rhoi enwau sarhaus i ddefnyddwyr drwy pagemove trolling
  • Galw am waharddiadau neu flocio

Mae'r math hwn o gyfathrebu rhwng defnyddwyr Wiciquote yn danfon defnyddwyr eraill ymaith, yn tynnu sylw pobl eraill o faterion pwysicach ac yn gwanhau'r gymuned gyfan.

Pryd a pham mae hyn yn digwydd?[golygu]

  • Yn ystod brwydr golygyddol, pan fo gan bobl safbwyntiau gwahanol, neu pan ceir gwrthdaro ynglyn â rhannu pŵer.
  • Wrth i'r gymuned dyfu. Nid yw pob golygydd yn adnabod pawb arall ac felly efallai nad ydynt yn sylweddolu pwysigrwydd pob unigolyn i'r prosiect; felly nid ydynt yn poeni am gynnal perthynas na sydd yn bodoli. Nid yw enw da yn cyfrif cymaint ag y mae mewn cymuned llai o faint.
  • Weithiau, ymuna defnyddiwr arbennig o anghwrtais â'r prosiect. Gall hyn arwain at olygwyr eraill i fod yn anghwrtais eu hunain.

Gan amlaf, mae sylwadau sarhaus yn cael eu defnyddio'n fyrbwyll mewn anghydfod hwy. Mewn ffordd maent yn ffordd o ddiweddu'r drafodaeth. Yn aml bydd y person a wnaeth y sylwad yn difaru dweud y geiriau yn hwyrach. Mae hyn yn ei hun yn reswm da dros ddileu'r sylwadau a berodd yr anghydfod.

Dro arall, efallai fod y defnyddiwr yn gwneud y sylwadau'n fwriadol; naill ai er mwyn tynnu sylw'r "gwrthwynebydd" o'r mater wrth wraidd yr anghydfod neu i geisio eu danfon ymaith rhag gweithio ar erthygl, neu er mwyn eu pryfocio'n ddigonol i fod hyd yn oed yn fwy anghwrtais, a allai beri i'r defnyddiwr hynny i gael ei g/wahardd. Mewn achosion fel hyn, mae'n llai tebygol y bydd y person a wnaeth y sylwadau annerbyniol yn difaru ac yn ymddiheurio.

Pam mae hyn yn beth gwael?[golygu]

  • Am ei fod yn gwneud pobl yn anhapus, gan achosi diffyg brwdfrydedd ymysg cyfrannwyr gan beri iddynt adael.
  • Am ei fod yn digio pobl, gan arwain at ymddygiad anadeiladol neu anghwrtais hyd yn oed, gan arwain at lefel yr anghwrteisi i gynyddu.
  • Am fod pobl yn colli eu hewyllys da, gan arwain at lai fyth o obaith o ddatrys y mater cyfoes — neu'r un nesaf.

Awgrymiadau cyffredinol[golygu]

Atal anghwrteisi o fewn Wiciquote[golygu]

  • Atal brwydrau golygu a gwrthdaro ymysg unigolion. (Gosodir cfyngiadau ar olygu gan y prosiect — ateb cymunedol mewn geiriau eraill.)
  • Gorfodi oedi rhwng atebion er mwyn rhoi amser i olygwyr i dawelu ac ymlacio er mwyn atal yr anghyfod rhag gwaethygu (diogelu tudalennau, neu flocio'r golygwr am gyfnod sydd ynglwm ag achos o wrthdaro).
  • Defnyddio adborth cadarnhaol (canmol y bobl hynny na sydd yn ymateb i anghwrteisi gydag anghwrteisi).
  • Defnyddio pwysau cyfoedion (mynegi anhapusrwydd bob tro y mae anghwrteisi yn digwydd).
  • Datrys gwraidd y broblem rhwng y troseddwr a golgwyr eraill y gymuned neu ddod i gyfaddawd.
  • Defnyddio adborth negyddol (awgrymu y dylai golygydd sydd mewn anghydfod yn gadael yr anghydfod neu y dylent adael unrhyw bwnc dadleuol yn Wiciquote, am gyfnod o leiaf). Efallai y byddai'n syniad i awgrymu hyn i ddwy ochr yr anghydfod.
  • Blocio defnyddwyr penodol rhag golygu tudalennau penodol sy'n arwain at anghwrteisi.
  • Creu a gweithredu rheol newydd — yn seiliedig ar ddefnyddio eiriau penodol — a fyddai'n blocio neu'n gwahardd defnyddiwr rhag eu defnyddio nifer penodol o weithiau.
  • Hidlo ebostiau gan y "troseddwr", neu hidlo post yn seiliedig ar eiriau allweddol penodol a gwrthod ebostiau i'r Rhestr bostio Wiciquote gyda'r geiriau hynny.
  • Derbyn na ellir osgoi anghwrteisi'n gyfangwbl mewn prosiect o'r math hwn, ond trwy beisio ag ymateb yr un ffordd.

Lleihau'r effaith[golygu]

  • Cydbwyswch bob sylwad anghwrtais gyda sylwas adeiladol neu liniarus.
  • Peidiwch ag ymateb i sylwadau sarhaus. Anghofiwch amdanynt. Maddeuwch y golygydd. Peidiwch a gwaethygu'r gwrthdaro. (Ymateb unigolyn yw hyn.)
  • Anwybyddwch anghwrteisi. Gweithredwch fel pe na bai'r tramgwyddwr yn bodoli. Lluniwch "wal" rhwng y tramgwyddwr a'r gymuned.
  • Gwrthdrowch olygiadau gyda llen anweledig (&bot=1) er mwyn lleihau effaith y geiriau sarhaus a ddefnyddir yn y crynodebau golygu (y blwch sylwadau). (Mae angen cymorth technegol sysop ar gyfer hyn.)
  • Cerddwch i ffwrdd. Mae Wiciquote yn fan cymharol fychan, ond mae nifer o dudalennau. Ewch i olygu rhywle arall a dychwelwch pan fo tymer pobl wedi tawelu.

Dileu sylwadau sarhaus[golygu]

  • Rhowch groes drwy eiriau sarhaus neu rhowch rhai mwynach yn eu lle ar dudalennau sgwrs. (Yn aml ystyrir hyn yn fater dadleuol, am ei fod yn arall-eirio geiriau pobl eraill.)
  • Gwaredwch sylwadau sarhaus o dudalennau sgwrs. (Am eu bod yn parhau yn hanes y dudalen, gall unrhyw un ddod o hyd iddynt neu gyfeirio atynt yn hwyrach.)
  • Gwrthdrowch olygiad gyda &bot=1, fel bod golygiad a wneir gan dramgwyddwr yn ymddangos yn anweledig yn y Newidiadau Diweddar. (Gellir gwneud hyn ar gyfer cyfraniadau IP, ond mae angen cymorth technegol wrth sysop i'w wneud.)
  • Dilewch (yn gyfangwbl ac yn barhaol) ddiwygiad a wnaed gan dramgwyddwr. (I wneud hyn mae angen cymorth technegol wrth sysop.)
  • Dileu sylwad sarhaus a wnaed ar y rhestr bostio'n barhaus. (I wneud hyn mae angen cymorth technegol wrth ddatblygwr.)
  • Newid sylwad a wnaed yn y crynodeb golygu i sylwad arall llai sarhaus. (I wneud hyn mae angen cymorth technegol wrth ddatblygwr.)


Rheoli anghwrteisi yn ystod y broses cyfryngdod[golygu]

Weithiau ceisia cyfrannwyr ddod i gytundeb tra bod un person yn amharod i ddod i gyfaddawd. Er enghraifft, os mai gwraidd y gynnen yw pwynt penodol mewn erthygl, gallwch wahodd y gymuned i adolygu'r drafodaeth yn Wikiquote:Y Caffi er mwyn lleihau'r effaith, os yw'r drafodaeth yn parhau i fod dan gwmwl trafodaeth anghwrtais rhwng y ddau barti. Mae'n well i ddelio gyda'r mater cyn gynted a phosib, er mwyn i'r anghydfodwyr fedru ail-afael yn eu eglurder meddwl tra'n golygu.

Er nad oed gan y Wiciquote Cymraeg broses gyfryngdod swyddogol, gallwch ofyn i drydydd person niwtral i wneud sylwad ar eich anghydfod ar unrhyw adeg yn Wikiquote:Y Caffi.

Esbonio anghwrteisi[golygu]

Mae rhai golygwyr wedi teimlo'n wirioneddol drist o ganlyniad i eiriau anghwrtais a wnaed yn eu herbyn, ac ni allant ffocysu ar wraidd y gwrthdaro ei hun. Gallai fod o gymorth i dynnu sylw pam y cafodd geiriau amhleserus eu defnyddio, a chydnabod tra bod anghwrteisi'n annerbynniol, efallai fod y syniadau tu ôl y sylwadau yn ddilys.

Gallai'r person a frifwyd gan y sylwadau sylweddoli na olygwyd y geiriau'n llythrennol, a gallai benderfynu maddau ac anghofio.

Gall fod yn ddefnyddiol i dynnu sylw pan fo rheolau cwrteisi'n cael eu torri hyd yn oed pan gant eu gwneud gyda'r nodi o frifo, oherwydd gallai hyn gynorthwyo'r anghydfodwr i ail-ffocysu ar y mater (dadleuol).

Aralleirio sylwadau anghydfodwyr[golygu]

Gall trydydd person niwtral chwarae rhan cyfryngwr mewn modd answyddogol, trwy gysylltu a'r anghydfodwyr a sicrhau eu bod yn cyfathrebu. I hwyluso pethau, byddwn yn cyfeirio ato ef neu ati hi fel "y cyfryngwr" isod. Swyddogaeth y cyfryngwr yw i annog trafodaeth resymol rhwng yr anghydfodwyr. O ganlyniad mae'n ddefnyddiol i gael gwared o'r elfennau anghwrtais o sylwadau Defnyddiwr A a'u arall-eirio pan yn trosglwyddo o Ddefnyddiwr B.

Er enghraifft, os yw Defnyddiwr A a Defnyddiwr B yn damnio'i gilydd ar ebostiau i'r cyfryngwyr, byddai'n syniad da i'r cyfryngwr aralleirio "Gwrthodaf adael i ymddiheurwyr Neo-Natsiaidd i heintio Wiciquote" i "Mae Defnyddiwr A yn poeni efallai eich bod yn rhoi gormod o bwyslais ar safbwynt benodol."

Arall-eirio fflamau a gyfnewidiwyd yn gyhoeddus cyn neu yn ystod y broses gyfryngdod[golygu]

Ar ddiwedd y broses gyfryngdod. gall y cyfrwngwr awgrymu fod yr anghydfodwyr yn cytuno i symud sylwad anghwrtais sydd wedi parhau ar dudalennau defnyddwyr ac ar dudalennau sgwrs yr erthygl. Gall y golgwyr gytuno i ddileu tudalennau a grewyd er mwyn sarhau neu ymfflamychu ei gilydd, a/neu ddileu'r holl ddeunydd ymfflamychol na sydd yn berthnasol i drafodaeth yr erthygl, a/neu i ail-ffactora trafodaeth. Rhydd hyn gyfle i anghydfodwyr i faddau ac anghofio tramgwyddau yn gynt.

Yn yr un modd, mae'n bosib y bydd yr anghydfodwyr yn cytuno i ymddiheurio i'w gilydd.

Awgrymwch ymddiheurio[golygu]

Yn aml, mae cyfryngdod yn cynnwys un defnyddiwr sy'n teimlo ei fod/bod wedi cael ei brifo gan ddefnyddiwr arall. Nid yw'r ymddiheuriad yn weithred i ddatrys problemau na chyfaddawdu. Yn hytrach, math o gyfnewid defodol ydyw rhwng y ddau barti, lle defnyddir geiriau er mwyn cymodi. Mewn cyfryngdod trawsnewidiol, cynrychiola'r ymddiheuriad gyfle i gydnabod ei gilydd a allai arwain at drawsnewid y berthynas sydd rhyngddynt.

Ar gyfer rhai pobl, bydd derbyn ymddiheuriad wrth y person neu bobl sydd wedi ei sarhau yn hanfodol bwysig. I'r perwyl hyn, yn aml mae ymddiheuriad didwyll yn fodd i ddatrys anghydfod; mae ymddiheuriad yn symbol o faddeuant. Argymhellir ymddiheuriad yn fawr pan fo anghwrteisi un person wedi brifo teimladau rhywun arall.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]