Wikiquote:Anaddas ar gyfer Wiciquote

Oddi ar Wikiquote
(Ailgyfeiriad o Wikiquote:CRISIAL)
Mae hwn yn bolisi Wikiquote arfaethedig.
Mae wedi cael ei ysgrifennu gan un olygyddion / grŵp ac yn yr arfaeth trafodaeth mabwysiadu gan y gymuned.
Teimlwch yn rhydd i wneud newidiadau er ailysgrifennu dylid trafod os yn bosibl.
Polisïau a chanllawiau Wiciquote
Safonau erthyglau
Gweithio gydag eraill

Mae Wikiquote:Wikiquote yn disgrifio'n gryno beth yw Wikiquote, a beth yw ei nodau. Mae'r canlynol yn trafod beth sy'n anaddas ar gyfer Wikiquote.


Nid gwyddoniadur mo Wikiquote[golygu]

Nid yw Wikiquote yr un peth a'i chwaer brosiect, Wikipedia. Tra'r annogir darnau byrion yn cyflwyno pwnc y dyfyniadau er mwyn rhoi syniad i'r darllenydd am yr hyn y mae'r dyfyniadau'n ffocysu arno, nid oes angen cynnwys erthylgau llawn am y pwnc.

Nid geiriadur mo Wikiquote[golygu]

Nid yw Wikiquote yn addas ar gyfer diffiniadau geiriadurol, yn wahanol i'w chwaer brosiect Wiktionary. Gall dyfyniadau ymwneud â thema penodol, megis Cariad, ond nid unrhyw air ar ben ei hun.

Nid llyfr testun mo Wikiquote[golygu]

Nid casgliad o wybodaeth a geir mewn llyfrau testun neu lyfrau canllaw yw Wikiquote. Gweler Wikibooks.

Nid yw Wikiquote yn fan ar gyfer dogfennau eiddo cyhoeddus[golygu]

Nid casgliad o ddogfennau eiddo cyhoeddus fel codau ffynhonnell, dogfennau hanesyddol gwreiddiol, llythyron, cyfreithiau, llyfrau neu gerddi cyflawni mo Wikiquote.

Nid gwefan bersonol mo Wikiquote[golygu]

Nid Myspace ydy Wikiquote. Gall bob defnyddiwr cofrestredig greu tudalen amdanynt eu hunain fel Wikiddyfynnwr, ond ni ddylent ei ddefnyddio er mwyn postio negeseuon na sydd yn ymwneud â Wikiquote, megis CVs, dogfennau personol, a.y.y.b. Gweler Wikiquote:Tudalen defnyddiwr am fwy o wybodaeth am dudalennau defnyddwyr.

Nid casgliad o'ch dyfyniadau personol eich hun mo Wikiquote[golygu]

Gall unrhyw ddefnyddiwr osod dyfyniadau maen nhw neu ffrindiau wedi dweud ar eu tudaln defnyddiwr, ond ni ddylech greu eich tudalen eich hun yn y prif fforwm ar gyfer eich dyfyniadau eich hun.

Nid cyfeirlyfr ar y wê mo Wikiquote[golygu]

Mae erthyglau ar gyfer casgliadau o ddyfyniadau, nid dolenni di-gyswllt. Ni ddylech greu tudalennau dim ond er mwyn rhestru eich hoff wefannau, rhifau ffôn a gwybodaeth di-bwrpas arall.

Nid fforwm trafod mo Wikiquote[golygu]

Caniateir i ddefnyddwyr bostio negeseuon i'w gilydd ar y tudalennau Sgwrs Defnyddwyr priodol ond rhaid cyfyngu'r sgwrsio i'r tudalennau hynny'n unig, ac nid i dudalennau sgwrs yr erthygl ei hun, sydd wedi'u neilltuo ar gyfer trafod cynnwys y tudalennau hynny'n unig.

Nid gwelog mo Wikiquote[golygu]

Nid casgliad o gofnodion o amryw welogiau ydy Wikiquote. Tra bod defnyddwyr yn medru postio'u syniadau ar eu tudalennau defnyddwyr, nid ddylent eu defnyddio'n unig ar gyfer cynnal gwelog.

Nid lle i bostio dyfyniadau helaeth o weithiau gyda hawlfraint mo Wikiquote[golygu]

Nid yw Wikiquote yn gasgliad o eiriau caneuon neu gerddi cyflawn, ac mae yna faterion hawlfraint pendant o ddefnyddio mwy nag ychydig linellau o ganeuon neu gerddi modern, hyd yn oed o dan amodau defnydd teg. Mae hyn hefyd yn wir am ddeialog o ffilmiau neu raglenni teledu. Tra nad oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ynglyn a defnyddio cerddi cyfan neu eiriau caneuon i'r parth cyhoeddus, ni annogir defnyddio cerddi cyfan neu geiriau caneuon llawn, a dylai proses ddethol o ddatganiadau arwyddocaol o fewn cerdd neu gan ddigwydd yn gyffredinol. NID yw'r ffaith fod gwaith sydd a hawlfraint wedi cael ei bostio'n llawn ar y wê yn golygu fod y gwaith bellach yn y parth cyhoeddus. Gweler Wikiquote:Hawlfreintiau.

Nid casgliad o hysbysebion mo Wikiquote[golygu]

Tra bod lle ar Wikiquote ar gyfer slogannau hysbysebu, nid yw Wikiquote yn caniatau hysbysebu amlwg neu (spam) o unrhyw fath. Gallai defnyddwyr sy'n postio dolenni'n barhaus i'w gwefan masnachol ar ôl iddynt dderbyn rhybudd gael eu blocio rhag golygu Wikiquote.

Nid pelen grisial mo Wikiquote[golygu]

Gweithia Wikiquote at sicrhau cywirdeb drwy ddefnyddio ffynonnellau dibynadwy ar gyfer ei dyfyniadau. Nid yw llyfrau, ffilmiau gemau, a gweithiau eraill sydd heb eu rhyddhau eto ar gael i'w gwirio, ac felly mae dyfyniadau o ac erthyglau ar y pynciau hyn yn annerbyniol oni bai fod yna gyhoeddiad dibynadwy yn eu hadolygu. Mae erthyglau sydd yn sgerbydau i'w llenwi ar ôl i'r gwaith gael ei rhyddhau yn arbennig o anaddas, am nad ydynt yn darparu dim o werth i'r person sy'n chwilio am ddyfyniadau, a gallent gael eu dileu ar frys am nad oes ganddynt gynnwys ddyfynadwy.

Polisïau swyddogol tebyg ar ein chwaer brosiectau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]