Martin Luther King
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Martin Luther King, Jr.)
Arweinydd anufudd-dod sifil di-drais yn yr Unol Daleithiau (UDA), a gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd y Parch Martin Luther King, Iau (15 Ionawr 1929 - 4 Ebrill 1968). Mae'n un o'r arweinwyr mwyaf arwyddocaol yn hanes yr Unol Daleithiau. Ystyrir ef yn arwr, yn heddychwr ac yn ferthyr gan filiynau ar draws y byd.
Dyfyniadau
[golygu]- "Mae gen i freuddwyd y bydd y genedl hon ryw ddydd yn codi ac yn byw yn ôl gwir ystyr ei chrêd: “Credwn fod y gwirioneddau hyn yn gwbl amlwg: y crëwyd pawb yn gyfartal.” Mae gen i freuddwyd y bydd anghyfiawnder a gormes yn troi’n rhyddid a chyfiawnder. Mae gen i freuddwyd y bydd fy mhlant ryw ddydd, yn cael eu barnu nid yn ôl lliw eu croen ond yn ôl cryfder eu cymeriad. Mae gen i freuddwyd y bydd plant du a gwyn yn gallu dal dwylo fel brodyr a chwiorydd. Pan fydd rhyddid yn ben, byddwn yn prysuro’r dydd y bydd holl blant Duw, du a gwyn, Iddewon a Chenhedloedd, Protestaniaid a Phabyddion yn gallu dal dwylo a chanu geiriau’r hen gân Negroaidd honno, “Rhydd o’r diwedd! Rhydd o’r diwedd! Diolch i’r Arglwydd Ior, rwy’n rhydd o’r diwedd!”
- Araith enwog Martin Luther King - 1963