Wikiquote:Cwestiynau cyffredin

Oddi ar Wikiquote

Cwestiynau cyffredin ar y Wiciquote Cymraeg.

Dod o hyd i ddyfyniadau[golygu]

C: Sut ydw i'n dod o hyd i ddyfyniad penodol? (Er enghraifft, "Mae gen i freuddwyd.")

A: Mae'r blwch Chwilio (ar ochr chwith pob tudalen Wiciquote) yn cynnwys botwm "Mynd", er mwyn dod o hyd i erthygl, a botem "Chwilio" er mwyn dod o hyd i'r testun o fewn erthygl. Yn syml, rhowch y dyfyniad yn y blwch Chwilio a chliciwch ar y botem "Chwilio". Byddwch yn gweld rhestr o erthyglau sy'n cynnwys y geiriau sy'n cyfateb agosaf i'ch dyfyniad. Cliciwch ar yr erthyglau a defnyddiwch swyddogaeth chwilio eich porwr i ddod o hyd i'r dyfyniad ar y dudalen.
Pan fo syrfwyr Wicifryngau o dan bwysau mawr, gall y botwm chwilio hwn gael ei ddiffodd dros dro. Gallwch ddod o hyd i ddyfyniadau yn Wiciquote hefyd drwy ddefnyddui peiriannau chwilio cyffredinol a chynnwys "wiciquote" yn y testun i chwilio amdano. (Gallai nifer o safleoedd na sydd yn gysylltiedig â ymddangos hefyd am eu bod yn defnyddio Wiciquote hefyd fel eu ffynhonnell. Wrth gwrs, rydym yn argymell eich bod yn mynd yn syth i lygad y ffynnon. Ar gyfer Google, gallwch deipio "site:wikiquote.org" i'ch chwiliad er mwyn cyfyngu'ch chwiliad i Wikiquote yn unig.

Cofnod newydd[golygu]

C: Sut ydw i'n ychwanegu erthyglai newydd i Wiciquote — er enghraifft, dyfyniadau gan bobl sydd ddim yn bodoli yma eisoes?

A: Ceir dogfennaeth manwl yn Cymorth:Dechrau tudalen newydd. Y ffordd hawsaf yw defnyddio un o'r botymau yn yr adran adran blwchmewnbwn er mwyn bwrw ati'n syth ar dudalen olygu gyda phatrwm pendant yno'n barod. Os ydych yn dewis un o'r ffyrdd eraill a restrir yno, gweler Wiciquote:Nodiadau am safonau fformatio cyffredin yma.

Dyfyniadau a geir ar y wê[golygu]

C: A yw'n dderbyniol i ychwanegu dyfyniadau rydych wedi darganfod ar y wê ac sy'n gymharol anadnabyddus?

A: Ydy. Dylid eu hychwanegu o dan Anhysbys, ond awgrymir y dylech geisio gwneud chwiliad i weld a fedrwch ddarganfod pwy oedd wedi ei ddweud.

Dyfyniadau gan gymdogion[golygu]

C: Beth am ddyfyniadau na sydd yn enwod: mae fy nghymydog Mr Huws yn dweud rhywbeth sylwgar; ydw i'n medru rhoi'r dyfyniad fan hyn, gan ei briodoli iddo?

A: Oni bai fod eich cymydog yn enwog, mwy na thebyg, nac ydych. Fodd bynnag, mae croeso i chi gofnodi eich dyfyniadau eich hun, pocl rydych yn adnabod a phobl nodedig ar eich tudalen defnyddiwr, a'u trefnu ym mha ffordd bynnag yr ydych yn dymuno.

Fandaliaeth[golygu]

C: A oes lle o fewn Wiciquote er mwyn tynnu sylw at fandaliaeth - a beth ellir ei wneud yn ei erbyn?

A: Pan fod fandaliaeth yn amlwg, gall unrhywun wrthdroi'r golygiadau a wnaed drwy glicio ar y ddolen am hanes yr erthygl, ac yna clicio i wrthdroi'r erthygl yn ôl i'r fersiwn ddiwethaf cyn y fandaliaeth. Yna rhaid cadw'r dudalen. Os ydych yn credu fod blocio, neu gamau ychwanegol i amddiffyn y dudalen yn angenrheidiol, gallwch bostio neges ar y dudalen Vandalism in progress a/neu hysbysu gweinyddwyr ar eu tudalennau sgwrs. Ceir mwy o wybodaeth am ffyrdd eraill i ymateb yn yr erthygl Wikipedia "Delio gyda fandaliaeth".

Copïo deunydd Wiciquote[golygu]

C: Ydw i'n medru copïo deunydd o Wiciquote ar gyfer fy ngwefan fy hun, neu am resymau masnachol?

A: Gweithreda Wiciquote, fel ei chwaer brosiect Wicipedia, o dan drwydded Creative Commons Attribution/Share-Alike License‎ (CC-BY-SA), a "copyleft" sy'n caniatau ei holl ddeunydd — yn rhad ac am ddim neu'n fasnachol — i gael ei ddefnyddio, cyn belled ag y bod yr un rhyddid-i-gopïo yn parhau a bod y gwaith gwreiddiol yn cael ei gydnabod (a wneir fel arfer drwy greu dolen yn ôl i'r erthygl Wiciquote priodol). Gweler w:Wicipedia:Hawlfraint am y polisi ffurfiol, sydd hefyd yn berthnasol i Wiciquote. Mae gan Creative Commons testun llawn o'r CC-BY-SA.

Wedi anghofio'ch cyfrinair?[golygu]

C: Dw i wedi anghofio fy nghyfrinair? Sut allaf ei gael yn ôl?

A: Os oeddech wedi nodi a chadarnhau cyfeiriad ebost pan roeddech wedi creu eich cyfrif, gellir danfon cyfrinair newydd atoch gan ddefnyddio'r botwm "Ebostio cyfrinair" ar y dudalen mewngofnodi.
Fel arall, gallwch greu enw defnyddiwr newydd gyda chyfrinair newydd.
Nid yw Wiciquote yn medru ymateb i geisiadau a wneir drwy ebost i newid, clirio, neu ddatgelu cyfrineiriau.

Ble i ofyn cwestiynau[golygu]

C: Nid yw fy nghwestiwn wedi cael ei ateb fan hyn. Ble allaf i ofyn?

A: Os oes gennych gwestiwn am sut mae Wiciquote yn gweithio, ceisiwch ein Caffi. Os oes gennych gwestiwn cyffredinol am ddyfyniad, ceisiwch ein Desg Gyfeirio.