Neidio i'r cynnwys

Virginia Woolf

Oddi ar Wikiquote
Mae gan brydferthwch y byd sy'n darfod mor gyflym, ddwy ochr, un o chwerthin, un o dristwch, gan dorri'r galon yn ddwy.

Ysgrifenwraig Seisnig oedd Virginia Woolf (25 Ionawr, 188228 Mawrth, 1941), ganed Adeline Virginia Stephen. Caiff ei hystyried yn o gymeriadau llenyddol modernaidd / ffeministaidd mwyaf dylanwadol ac arloesol yr 20fed ganrif.

Dyfyniadau gyda ffynhonnell

[golygu]
  • F'annwylyd,

    Hoffwn ddweud wrthot dy fod wedi dod a hapusrwydd pur i mi. Ni allai unrhyw un fod wedi gwneud mwy nag y gwnest ti. Cred fi pan ddywedaf hyn.

    Ond gwn na fyddaf fyth yn dod dros hyn: ac rwyf yn gwastraffu dy fywyd. Y gwallgofrwydd hwn ydyw. Ni all unrhyw beth a ddywed pobl wrthyf fy mherswadio. Gelli weithio, ac fe fyddi'n llwer gwell hebddof. Fe sylwi nad wyf yn medru ysgrifennu hwn hyd yn oed, sy'n profi fy mod yn gywir. Yr unig beth hoffwn ddweud yw tan y daeth yr afiechyd hwn, roeddem yn gwbl hapus. O'th herwydd di oedd hynny. Ni allai unrhyw un fod wedi bod cystal ag yr oeddet ti, o'r diwrnod cyntaf tan nawr. Gŵyr pawb hynny.

    V.

    • Llythyr at Leonard Woolf (28 Mawrth 1941), o The Virginia Woolf Reader, ed. Mitchell A. Leaska (Harcourt Trade, 1984, ISBN 0156935902), td. 369


  • Dywedodd Mrs. Dalloway y byddai bob amser yn prynu'r blodau ei hun.


  • Golyga golau yn y fan hon gysgod yn y fan acw.
    • Rhan I, Pennod 9


Harcourt, Brace & World, 1957, ISBN 0-156-78732-6

  • Os yw gwraig am ysgrifennu ffuglen, rhaid iddi gael arian a'i hystafell ei hun.
    • Pennod 1 (td. 4)
  • Mae gan brydferthwch y byd sy'n darfod mor gyflym, ddwy ochr, un o chwerthin, un o dristwch, gan dorri'r galon yn ddwy.]]
    • Pennod 1 (td. 17)

Books and Portraits (1977)

[golygu]
  • Yr anianau cryfach, pan cânt eu dylanwadu, sy'n ildio yn y ffordd fwyaf digyfaddawd; efallai fod hyn yn arwydd o'u cryfder.


Dolenni allanol

[golygu]