Siwan (drama)

Oddi ar Wikiquote

Drama fydryddol gan Saunders Lewis yw Siwan, sydd wedi ei seilio ar y cymeriad hanesyddol Siwan, gwraig Llywelyn Fawr. Ysgrifennodd Saunders y ddrama Siwan yn 1954, ac mae'r ddrama yn un o'r clasuron Cymraeg.

Dyfyniadau[golygu]

  • Nid ofni'r gwir, ond ofni, hwyrach ei glywed - Siwan
  • Mae syllu i lygad amser
    yn gychwyn gwallgofrwydd.
    Mewn amser mae amser i bopeth. - Siwan
  • Does neb erioed a gydydymdeimlodd â phoen. - Alis
  • "Seremoni yw byw i deulu brenhinol." - Llywelyn
  • "Mae pawb yn newid, mae hyd yn oed atgofion yn newid. - Llywelyn
  • Dechrau nabod ei gilydd mae pob gŵr a gwraig, boed bythefnos neu ugain mlynedd. - Llywelyn
  • Rhodd enbyd yw bywyd i bawb. - Llywelyn
  • Alltud a'm hunig werth yw fy ngwerth i gynnydd gwlad.
    • Siwan pan yn sôn am ei phriodas â Llywelyn.
  • Gwleidyddiaeth oedd ein priodas ni, arglwyddes.
    • Cyffesiad Llywelyn mai am resymau gwleidyddol y priododd y ddau ohonynt.
  • Rhoddais fy nghroth i wleidyddiaeth fel pob merch brenin.
    • Siwan yn cydnabod fod ei bywyd a'i chariad personol wedi ei aberthu am resymau gwleidyddol.
  • Dwy blaned yn rhwym i'w cylchau;
    chlywan nhw mo'i gilydd fyth.
    • 'Siwan yn disgrifio'i pherthynas hi a Llywelyn yn Act 3
  • Onid dyn yw tywysog, ferch? - Llywelyn wrth Alis (Act 3)