Lewis Valentine
Oddi ar Wikiquote
Gweinidog o Fedyddwr, awdur ac ymgyrchydd dros heddwch a hawliau Cymru oedd Lewis Valentine (1893 - 1986).
Dyfyniadau gyda ffynhonnell [golygu]
- Dros Gymru'n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri,
y winllan wen a roed i'n gofal ni;
d'amddiffyn cryf a'i cadwo'n ffyddlon byth,
a boed i'r gwir a'r glân gael ynddi nyth;
er mwyn dy Fab a'i prynodd iddo'i hun,
O crea hi yn Gymru ar dy lun.
O deued dydd pan fo awelon Duw
yn chwythu eto dros ein herwau gwyw,
a'r crindir cras dan ras cawodydd nef
yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo ef,
a'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
yn seinio fry haeddiannau'r addfwyn Oen.- "Gweddi dros Gymru" - i'w chanu ar don Finlandia
Dyfyniadau heb ffynhonnell [golygu]
- Chwi sy'n iach a heini peidiwch ac oedi yn rhy hir gyda ddoe, ond rhowch eich deng ewin ar y dasg sydd wrth ein drws heddiw.