Kate Roberts

Oddi ar Wikiquote

Yr oedd Kate Roberts (13 Chwefror 1891 - 4 Ebrill 1985) yn llenor enwog yn y Gymraeg. Fe'i ganed ym mhentref Rhosgadfan, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) a bu farw yn Ninbych. Gelwir Kate Roberts yn "Frenhines y stori fer".

Dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

  • Ym mh'le yn y byd y cawsoch chi'ch magu?
    "Ar fynyddoedd Sir Gaernarfon yn y lle mwya bendigedig sy'n bod."
    • Tegwch y Bore
  • Y mae'r gwynt yn ubain o gwmpas y tŷ ac yn crio fel plentyn. Mae canghennau'r coed wrth y gadlas yn gwichian a chlywaf rhai ohonynt yn torri'n gratsh. Ebwch mawr, tawel a llechen yn mynd oddi ar do'r beudy ac yn disgyn yn rhywle. Mae arnaf ofn i do'r tŷ fynd. Ond nid oes rhaid i no ofni, yr ydym yn ddiddos yn y gwely a nhad a mam wrth y tân o dan y simdde fawr. Mae Duw yn y nefoedd yn gorwedd ar wastad ei gefn ar y cymylau gwlanog, a'i farf yr un fath â'r gwlan. Y Fo sy'n maddau inni am wneud drygau ac yn gofalu na chawn ni fynd i'r tân mawr. Ond nhad a mam sy'n rhoi bwyd inni a tho nad yw'n syrthio."
    • Y Lôn Wen
  • Y mae dechrau blwyddyn yr un fath yn union â chegin heb dân ynddi.
    • Pennod 19, Tywyll heno