Hedd Wyn (ffilm)

Oddi ar Wikiquote

Ffilm Gymraeg am fywyd y bardd Hedd Wyn yw Hedd Wyn. Cafodd ei henwebu am Oscar ym 1994. Huw Garmon sy'n serennu fel Hedd Wyn. Ysgrifennwyd y sgript gan Alan Llwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Paul Turner.

Dyfyniadau gyda ffynhonnell[golygu]

  • Am ganrifoedd arferai pobl Geltaidd Prydain anrhydeddu’r beirdd drwy roi eu cadair eu hunain iddyn nhw yn llysoedd y brenhinoedd a’r tywysogion. Mae’r traddodiad hwn wedi goroesi yn yr Eisteddfod fodern lle cyflwynir cadair i awdur y gerdd draddodiadol orau.
    Ym 1917, yn mhedwaredd flwyddyn y Rhyfel Mawr, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Birkenhead.
    • Geiriau agoriadol y ffilm a welir y geiriau ar y sgrîn.


  • "Blydi gynna'"
    • Ymateb Elis pan gynnau'n cael eu tanio ar fynyddoedd Trawsfynydd wrth iddo yntai geisio barddoni.


  • Os ydy’r bardd sy’n dwyn y ffugenw Fleur de Lis yn bresennol, safed ar ei draed.


  • ‘Hen lanc fyddi di Ellis’.
    ’Gad i fi fod yn llanc ifanc gynta’
    • Geiriau ei chwaer Magi wrth Elis (Hedd Wyn) a'i ymateb yntai.


  • Mae Arianhod hefo fi...Ar noson fel heno fydda i’n meddwl weithiau mai Arianrhod sy’n sgwennu’r pethau yma i mi, mae’n goleuo nychymyg i, gafael yn fy llaw i ac yn dangos rhyfeddodau’r bydysawd i mi.
    • Ymateb Elis i eiriau ei chwaer Mary. Esbonia mai wrth Arianrhod (Duwies Celtaidd y lleuad) / Merch y Drycinoedd y mae'n derbyn ei ysbrydoliaeth.


  • Er oedi’n wasgaredig – hyd erwau
    Y tiroedd pellennig.
    Duw o’i ras o lanwo’ch trig
    A dialar Nadolig.

    Rhai o’r hen bererinion – oedd unwaith.
    Yn ddiddanwch Seion.
    Aethant o’n hardal weithion.
    I’r wlad well dros feryl don.

    Eraill aeth dros y gorwel – i feysydd
    Difiwisig y rhyfel;
    Uwch eu cad boed llewych cêl
    Adenydd y Duw anwel.

    • Geiriau o un o gerddi Hedd Wyn a drosleisir yn y ffilm